Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Y Tylwyth Teg


Y Tylwyth Teg


 

 

Chwedlau Cymru

Y Tylwyth Teg

Fiona Collins

Gwasg Carreg Gwalch, £5.99

 

Dyma’r drydedd gyfrol yn y gyfres Chwedlau Cymru gan Fiona Collins ar gyfer dysgwyr lefel mynediad. Y tro yma, chwedlau am y tylwyth teg sydd o dan sylw. Mae chwe chwedl yn y llyfr, a rheini’n rhai adnabyddus am y Tylwyth Teg. Mae Fiona, sy’n gweithio fel chwedleuwr, yn credu ei bod yn bwysig i bawb glywed gwahanol fersiynau o chwedlau, a bod darllen neu wrando ar chwedlau yn ffordd dda o ddysgu Cymraeg. Meddai Fiona: ‘Mae llawer o bobl wedi deud y chwedlau yma dros y blynyddoedd. Dim ond un o’r bobl yna dw i. Dyma fy fersiwn i, yn y llyfr yma.’

 

Y chwe chwedl sydd yn y gyfrol yw: Chwedl Cawr Gilfach Bargoed, Chwedl Plant Rhys Ddwfn, Chwedl Collen a Gwyn ap Nudd, Chwedl Elidyr yng Ngwlad y Tylwyth Teg, Chwedl Telyn y Tylwyth Teg a Chwedl Pa Lygad? Mae’r map sydd ar ddechrau’r llyfr yn dangos bod y chwedlau’n dod o wahanol rannau o Gymru, fel bod cyfle i bawb ddarllen stori sy’n berthnasol i’w ardal ei hun, yn ogystal â dysgu am y traddodiad storïol mewn ardaloedd eraill.

 

Mae’r darluniau gan Natalie Griffiths hefyd yn gymorth i’r darllenwyr ddychmygu’r hyn sy’n digwydd yn y straeon hyn.

 

Mae Chwedlau Cymru, Y Tylwyth Teg ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg,

drwy www.carreg-gwalch.cymru a ffolio.cymru | Eich Siop Lyfrau Leol Ar-lein

 

Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â

Gwasg Carreg Gwalch:

llanrwst@carreg-gwalch.cymru

Broliant cefn y clawr:

Dyma chwe chwedl, neu stori, o Gymru am y Tylwyth Teg. Mae’r chwedlau’n dod o bob rhan o Gymru – Caernarfon, Tywyn a Llangollen yn y Gogledd a Gilfach Bargoed, Penrhyn Gŵyr a Sir Benfro yn y De. Rwyt ti’n gallu darllen chwedl o dy ardal di.

Mae pob stori yn ddiddorol iawn. Mae’n dda gwybod am chwedlau Cymru, hanes y wlad ac am y chwedlau sy’n dod o dy ardal di.

 

Yr awdur:

Mae Fiona Collins yn byw ger Corwen yn Sir Ddinbych. Mae hi wedi dysgu Cymraeg – ac mae hi wedi ennill cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn. Ers y 1990au, mae hi’n gweithio fel chwedleuwr. Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr arall o chwedlau Cymru: Chwedlau Cymru: Ceffylau a Chwedlau Cymru: Y Môr. I Fiona, mae gwrando ar chwedlau, neu ddarllen chwedlau, yn ffyrdd da o ddysgu Cymraeg.

 

Nodiadau i’r Golygydd

  • Darluniau gan Natalie Griffiths. Mae hi'n artist llawrydd sy’n byw yng Ngogledd Cymru, gyda 10 mlynedd o brofiad yn creu dyluniadau ar gyfer diwydiant, ac yn gweithio ym maes darlunio golygyddol, cyhoeddiadau a nwyddau, yn ogystal â chreu gwaith wedi’i beintio â llaw.
  • Dyma’r drydedd gyfres yn y gyfres Chwedlau Cymru gan Fiona Collins, gan iddi gyhoeddi Chwedlau Cymru: Ceffylau yn 2021 a Chwedlau Cymru: Y Môr yn 2023.
  •  Mae’r llyfr yma i ddysgwyr sy wedi gorffen Uned 19 y cwrs Mynediad.