Hafan > Y Mudiad > Y Ganolfan Genedlaethol
Y Ganolfan Genedlaethol
Eisiau llogi ystafell yn Aberystwyth?
Gwireddwyd breuddwyd yn y flwyddyn 2000 pan fuddsoddodd y mudiad mewn canolfan yn Aberystwyth. Prynwyd yr hyn a oedd yn ganolfan Urdd Sant Ioan a’r Groes Goch yn flaenorol, a chyn hynny yn gapel o dan ofal y Parch Aseriah Shadrach.
Agorwyd ar Fawrth 1af 2000 gan Marged Jones a Sylwen Lloyd Davies, ein Llywyddion Anrhydeddus.
Cafwyd cyngerdd agoriadol a gwahoddwyd cynrychiolwyr o’r mudiad ynghyd a gwesteion eraill i ymuno gyda ni.
Erbyn hyn y mae yn adnodd cymunedol ac yn adeilad a ddefnyddir yn rheolaidd gan 50 o sefydliadau a mudiadau. Mae yna Ystafell Gynhadledd ac Ystafell Weithgareddau, lolfa, cegin bwrpasol a gardd fechan gymunedol. Mae lluniaeth lleol ar gael am bris rhesymol. Mynediad i’r anabl a lifft i fyny i’r llawr cyntaf.
Prisiau
Gallwch logi ystafell am cyn lleied a £12.00 am fore, prynhawn neu noson.
Adnoddau: byrddau gwynion, teganau i blant, llun-gopiwr, uwchdaflunydd, taflunydd a llawer iawn mwy.
Manylion Ychwanegol am Y Ganolfan Genedlaethol