Hafan > Telerau ac Amodau
Telerau ac Amodau
Telerau defnyddio’r wefan
Mae’r dudalen hon [ynghyd â dogfennau eraill y cyfeirir atynt] yn esbonio ein telerau a sut y gallwch chi ddefnyddio’n gwefan. Mae’n atodol a dylid ei ddarllen ar y cyd gyda amodau a thelerau eraill yr ydych wedi cytuno fel rhan o’ch defnydd chi o’n gwefan neu’n gwasanaethau. Wrth ddefnyddio’n gwefan, rydych chi’n cytuno i dderbyn y telerau defnydd yma. Os nad ydych chi’n cytuno â’r telerau, peidiwch â defnyddio’n gwefan.
Gwybodaeth amdanom ni
...sy’n gweithredu’r wefan merchedywawr.cymru
Mynediad i’n gwefan
Rhoddir mynediad dros dro i’n gwefan ac mae gennym ni’r hawl i ddiddymu neu ddiwygio’r wefan heb rybudd [gweler isod]. Ni fyddwn ni’n atebol o gwbl os na fydd y wefan ar gael ar unrhyw gyfnod neu amser. O bryd i’w gilydd, fe allwn ni gyfyngu mynediad i’n gwefan neu rhannau ohoni.
Os byddwch chi’n dewis, neu os rhoddir i chi, côd adnabod defnyddiwr, cyfrinair neu unrhyw ddarn o wybodaeth fel rhan o’n gweithdrefnau diogelwch, mae’n ddyledus arnoch chi i drin y gwybodaeth yn gyfrinachol, ac ni ddylech rannu’r wybodaeth gydag eraill. Mae ganddom ni’r hawl i analluogi côd adnabod defnyddiwr neu gyfrinair a ddewiswyd gennych chi neu ddarparwyd gennym ni os na fyddwch, yn ein tyb ni, yn cydymffurfio â’r telerau defnydd yma.
Hawliau Eiddo Deallusol
Ni yw perchennog neu’r daliwr trwydded ar gyfer hawliau eiddo deallusol a’r deunyddiau a gyhoeddir ar ein gwefan. Fe’u diogelir gan ddeddfau hawlfreintiau a chytundebau dros y byd a chedwir pob hawl. Ni chewch ddefnyddio unrhyw ran o’r deunyddiau ar ein gwefan at ddibenion masnachol heb gael trwydded gennym ni neu’n trwyddedwyr.
Cewch argraffu un copi a lawrlwytho detholiadau, o unrhyw dudalen neu dudalennau o’n gwefan, a chewch ddwyn sylw eraill o fewn eich sefydliad at ddeunydd sydd ar ein gwefan. Ni chewch wneud newidiadau naill i’r fersiwn papur na’r fersiwn ddigidol o unrhyw ddeunyddiau yr ydych wedi’u hargraffu neu lawrlwytho oddi ar ein gwefan ac ni chewch ddefnyddio lluniau, fideo na thraciau sain, na unrhyw graffeg heb y testun perthnasol. Rhaid cydnabod ein statws ni [ac unrhyw gyfranwyr eraill] fel awduron y deunyddiau sydd ar ein gwefan.
Os fyddwch chi’n argraffu, copio neu lawrlwytho unrhyw ran o’n gwefan yn groes i’r telerau hyn, terfynir ar unwaith eich hawl i ddefnyddio’n gwefan a bydd rhaid yn ôl y gofyn ddychwelyd neu ddifa unrhyw gopi a wnaethpwyd o’n deunyddiau ni.
Dibynnu ar ein gwefan
Ni ddylech ddibynnu’n ormodol ar sylwadau a deunyddiau eraill sy’n ymddangos ar ein gwefan. Ni fyddwn yn atebol nac yn derbyn cyfrifoldeb dros y pwysigrwydd a rhoddir gan ymwelwyr nac unrhywun ddaw i wybod am ddeunyddiau o’r fath ar ein gwefan.
Ein hatebolrwydd
Darperir y deunyddiau sy’n ymddangos ar ein gwefan heb unrhyw warantiadau, amodau nac awdurdod dros eu cywirdeb. Yn ôl y gyfraith, rydym ni, Merched y Wawr a’r rhai sy’n gysylltiedig â ni yn gwrthod yn gyfan gwbl:
- Pob gwarant ac awdurdod ac unrhyw amodau eraill y gellir eu hamlygu drwy statud, deddf gwlad a chyfraith tegwch
- Unrhyw atebolrwydd dros golled neu niwed uniongyrchol, anuniongyrchol neu ganlyniadol a ddaw i ddefnyddwyr ein gwefan neu drwy’r defnydd, anallu i ddefnyddio neu o ganlyniad i ddefnyddio ein gwefan, unrhyw wefan sy’n gysylltiedig â hi ac unrhyw ddeunyddiau sydd arni.
- Nid yw hyn yn effeithio’n atebolrwydd dros farwolaeth neu niwed personol yn sgîl ein hesgeulustod ni, na dros dwyll camarweiniol na chamarwain yn ymwneud â materion sylfaenol, nac unrhyw atebolrwydd arall sydd ar wahan i neu’n gyfyngedig yn ôl y ddeddf berthnasol.
Gwybodaeth amdanoch chi ac ymweliadau â’n gwefan
Yn unol â’n polisi preifatrwydd rydym ni’n defnyddio gwybodaeth amdanoch chi. Wrth ymweld â’n gwefan, rydych chi’n rhoi sêl bendith i ni ddefnyddio’r wybodaeth ac yn gwarantu cywirdeb eich data.
Cysylltu â’n gwefan
Cewch osod dolen i’n hafan ar yr amod eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg a chyfreithlon ac sydd ddim yn pardduo’n enw da na chymryd mantais ohono. Ni chewch chi greu dolen sy’n awgrymu unrhyw fath o gysylltiad rhyngom, cymeradwyaeth na sêl bendith ar ein rhan, lle nad yw hynny’n gywir. Ni chewch greu dolen o unrhyw wefan nad chi sy’n berchen arnynt.
Ni ellir fframio’n gwefan ni ar unrhyw wefan arall. Cedwir yr hawl i ddiddymu caniatâd i osod dolen ar ein gwefan heb rybudd.
Dolenni o’n gwefan
Mae dolenni i wefannau ac adnoddau eraill yn ymddangos ar ein gwefan er gwybodaeth yn unig. Nid oes gennym ni rheolaeth dros eu cynnwys na’u hadnoddau nac yn derbyn cyfrifoldeb dros unrhyw golled neu niwed all ddigwydd yn sgil eich defnydd chi ohonynt.
Awdurdodaeth a’r gyfraith berthnasol
Bydd gan lysoedd Cymru awdurdodaeth neilltuedig dros unrhyw hawl gyfreithiol sy’n deillio neu’n ymwneud gyda ymweliad â’n gwefan, ond cedwir yr hawl i ddod ag achos yn eich erbyn am dorri’r telerau hyn yn y wlad yr ydych yn byw ynddi neu unrhyw wlad berthnasol arall.
Rheolir y telerau defnydd yma ac unrhyw anghydfod a hawl gyfreithiol sy’n deillio neu’n ymwneud â nhw, eu cynnwys a’u creu [gan gynnwys anghydfodau neu hawliau cyfreithiol sydd ddim o dan gytundeb] yn ôl cyfraith Cymru a Lloegr.
Amrywiadau
Gallwn adolygu’r telerau defnydd yma ar unrhyw adeg drwy ddiweddaru’r dudalen hon. Disgwylir i chi ymweld â’r dudalen hon bob tro y byddwch yn ymweld â’n gwefan a’ch cyfrifoldeb chi yw nodi unrhyw newidiadau. Gall amodau a hysbysebion a gyhoeddir mewn mannau eraill ar y wefan ddisodli cynnwys y telerau yma.