Hafan > Ymaelodi


Ymaelodi


Gallwch ymuno gyda Merched y Wawr mewn cangen, clwb neu fel aelod unigol. Y gost ydyw: £20.00 am flwyddyn (o fis Medi hyd fis Medi) 

Os oes diddordeb gennych i sefydlu Clwb neu Gangen neu i ymuno fel aelod unigol cysylltwch â’r Ganolfan Genedlaethol ar 01970 611 661 neu swyddfa@merchedywawr.com 

Gallwch hefyd brynu aelodaeth unigol i ffrind, ac fe fyddant yn derbyn gwahoddiadau i ddigwyddiadau cenedlaethol gan gynnwys yr Ŵyl Haf, ciniawau’r llywydd a’r Penwythnos Preswyl ynghyd â derbyn 4 rhifyn o’r Wawr drwy’r post.  Dyma anrheg wych i Gymry Cymraeg oddi cartref. 

12 Rheswm i fod yn aelod...

aelodau Merched y Wawr

Rheswm 1

 

Dyma’r unig fudiad Cenedlaethol Cymraeg i Ferched Cymru.

Clawr Cylchgrawn y Wawr

Rheswm 2

4 copi o Gylchgrawn y Wawr fel rhan o’ch tal aelodaeth – mae tudalennau am y clybiau gwawr ac erthygl rheolaidd am ddod i adnabod aelod o glwb gwawr ac mae croeso mawr i unrhyw aelod gyfrannu tuag ato.

Mae cystadlaethau gwych ym mhob rhifyn.

aelodau Merched y Wawr ar daith cerdded

Rheswm 3

Cefnogaeth a chyngor gan y Swyddogion Hyrwyddo – Bargen arall!

Gallwn eich cynorthwyo i gynnal noson, helpu gyda grantiau, rhaglenni, syniadau a llawer iawn mwy...

aelodau Merched y Wawr - cangen Pum Heol

Rheswm 4

Cyfle i wneud pethau amrywiol yn rheolaidd:

Pethau na fyddai grwp o ffrindiau sy’n cwrdd jyst i gael bwyd neu diod - ddim yn gwneud – e.e. Saethyddiaeth, Dawnsio Llinell, Bingo...

aelodau Merched y Wawr - cangen Gwendare

Rheswm 5

Cyfle i gwrdd a ffrindiau gwahanol a newydd yn y Clwb – dim jyst yr un (hen) rhai!

aelodau Merched y Wawr gyda

Rheswm 6

Cymdeithasu gyda chlybiau eraill – Ac mae mwy a mwy o glybiau!  

aelodau Merched y Wawr yn cystadlu

Rheswm 7

Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau cenedlaethol e.e. Cwis Hwyl, Cyrsiau Amrywiol, Crefftau, Coginio, Chwaraeon, Bowlio 10 a Chystadlaethau gan gynnwys rhai llenyddol: Chi’n ddigon talentog a chi’n gwybod ‘ny!

aelodau Merched y Wawr yn cael hwyl

Rheswm 8

Mae strwythur i’r Clwb yn golygu bod parhad yn y gweithgareddau - Cwrdd unwaith y mis, gwneud rhaglen, swyddogion: Mae’n gweithio – cwrdd bob mis yn lle eistedd gartre yn gwylio’r un hen sbwriel ar y teledu!

aelodau Merched y Wawr yn cymryd rhan mewn gweithgaredd

Rheswm 9

Mae gan aelodau Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus tra eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn enw’r Clwb: Pwysig os dorrwch chi’ch coes ar eich Taith Gerdded flynyddol!

aelodau Merched y Wawr mewn gweithdy dawns

Rheswm 10

Mae Gwefan a Facebook ac rydym ar Trydar yn rheolaidd!

Mae llawer o glybiau hefyd â tudalen fb eu hun neu ar trydar.

aelodau Merched y Wawr yn garddio

Rheswm 11

Mae’r mudiad yn Cefnogi ymgyrchoedd cenedlaethol e.e. S4C, a rhai lleol e.e. arwyddion cymraeg mewn canolfannau siopa newydd, gwasanaethau Cymraeg mewn banciau – Oes, mae clowt gan yr hen Ferched y Wawr: pan y’n ni’n gwneud swn mae pobl yn gwrando!

aelodau Merched y Wawr - cangen Difas Daniel

Rheswm 12

Mae bod yn aelod yn ‘esgus’ i gymdeithasu drwy’r Gymraeg ac felly cryfhau ein hiaith yn ein cymunedau ni.

A dangos bod bywyd yn yr hen iaith o hyd!

Bydd gennych gyfansoddiad sy’n sicrhau mai Cymraeg fydd iaith y clwb.