Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd
Cyhoeddiadau Newydd
O na fyddai’n Haf o hyd! Haf Thomas (Cyd-awdur: Ifor ap Glyn) Mae Haf Thomas o Lanrug yn dipyn o gymeriad! Mae wedi llefaru ar lwyfan yr Urdd, mae wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm, mae wedi switsio goleuadau’r Nadolig ymlaen yng Nghaernarfon – ac mae wedi codi trigain mil o bunnoedd i elusennau gwahanol. Hyn i gyd gan ferch sy’n gwrthod gadael i anawsterau bywyd ei threchu. Pan anwyd Haf yn 1971 roedd yn dipyn o sioc i’w rhieni Ann ac Irfon pan ddeallon nhw fod syndrôm Downs arni. Ers hynny, yr unig sioc a fu, yw ei dawn barhaus i gael y gorau o’r bobol o’i chwmpas. Mae ei theulu a’i chymuned wedi bod yn gefn iddi – ond mae hithau yn ei thro wedi gwneud mwy na’r rhan fwyaf ohonom i dalu’r gymwynas yn ôl. Mae wedi nofio i godi pres i Ysgol Pendalar, hel stampiau at Gymdeithas y Deillion, gwerthu cardiau cyfarch mae’n gwneud ei hun, a threfnu cyngherddau Nadolig hefo’i chydweithwyr yng Nghyngor Sir Gwynedd. Mae wedi codi pres i dros dri deg o wahanol elusennau. Yn y gyfrol hon, mae’n adrodd ei stori ei hun – ac mae’n stori gwerth ei rhannu.
HUNANGOFIANT UNIGRYW AM BWYSIGRWYDD POSITIFRWYDD;
O FFWRNEISI’R GWAITH DUR I’R YSTAFELL DDOSBARTH GYMRAEG
Yr wythnos hon bydd hunangofiant hynod yn cael ei lansio; hunangofiant un o dylwyth hen Ddociau Caerdydd, a chymeriad arbennig – Wayne Howard. Yn y gyfrol, mae Wayne yn olrhain hanes ei fywyd personol ei hun, a hanes ei deulu a’i wreiddiau – yr hyn sy’n rhan annatod o’i gynhysgaeth. Mae’n siarad yn agored ac yn onest am ei fagwraeth a’i blentyndod ym Mae Teigr; yr heriau yn sgil hiliaeth a rhagfarn; ei frwydr â’i iechyd meddwl, a’r cwmni a’i gwnaeth yn ddi-waith; ei daith ryfeddol i ddysgu, ac i addysgu, Cymraeg… Ond hefyd – ac yn bwysicaf oll – mae’r gyfrol hon yn rhoi blas inni ar ei ddygnwch yn wyneb awelon croes bywyd; ei gariad diddarfod at ei deulu a’i ffrindiau, a’i gyd-ddyn; a’i awch i ysbrydoli pobl.
Yng ngeiriau Wayne ei hun: ‘Gobeithio ei fod yn ddiddorol ac yn ddifyr; ac y bydd yn procio’ch meddwl ac yn eich ysbrydoli. Mae’r gair olaf ’na – ‘ysbrydoli’ – yn bwysig iawn i mi. Pan ddaw fy amser i i gau fy llygaid am y tro olaf, dw i am deimlo ’mod wedi gwneud gwahaniaeth positif i fywyd rhywun.’
Yn y llyfr difyr hwn, mae Wayne yn trafod ei ddatblygiad a’i esblygiad fel person – o fod yn llencyn ifanc chwerw, rhwystredig i fod yn ddyn positif, diolchgar. Mae Wayne yn trafod rhai o’r profiadau bywyd a’r canfyddiadau sydd wedi’i siapio fel unigolyn dros y blynyddoedd, ac sydd wedi’i gymell i feithrin a chynnal y byd-olwg positif, diolchgar hwn.
Mae’n sôn am yr hwyl, y cymdeithasu a’r ‘camaraderie’ a fodolai ymysg bechgyn y gwaith dur, yn ogystal â’u teyrngarwch a’u ffyddlondeb i’w gilydd ar adegau heriol. Mae hefyd yn sôn am y cyfeillgarwch a’r cysylltiadau cadarnhaol y mae Wayne wedi’u hadeiladu ar ei daith Gymraeg, yn dilyn colli ei waith yn ddisymwth. Yn ogystal, cawn glywed gan Lynda, gwraig Wayne, ac Elinor, ei ferch drwy ystod y llyfr; mae eu cyfraniadau a’u safbwyntiau nhw yn ychwanegu at liw a gwead y darlun crwn.
Mae Wayne, bellach dros ei saith deg oed, yn berson sy’n arddel hunanfynegiant didwyll, di-ymddiheuriad; ond sydd hefyd yn awyddus i wneud ei ran i helpu eraill, yn enwedig unigolion mewn angen, ac i ddod â rhywfaint o lawenydd ac ysgafnder i’w byd.
Mae sesiynau arwyddo copïau – yng nghwmni Wayne a Jon Gower – wedi’u trefnu yn siopau llyfrau Cant a Mil a Caban yng Nghaerdydd.
Teitl |
Hunangofiant Dyn Positif |
Awdur |
Wayne Howard |
Golygydd |
Cedron Sion |
Dyddiad cyhoeddi |
29/11/2024 |
Pris |
£9.99 |
ISBN |
978 180099 629 8 |
Sgwrs Dan y Lloer
Cip tu ôl i’r llen ar y gyfres boblogaidd
Marlyn Samuel gydag Elin Fflur
Gwasg Carreg Gwalch, £12
Dyddiad Cyhoeddi: 25 Tachwedd, 2024
Lansiadau
3 Rhagfyr: Lle Arall, Stryd y Plas, Caernarfon am 7yh
5 Rhagfyr: The Red Door Studio, PIPES, Pontcanna am 6.30yh
'Roedden ni’n gwybod ein bod ni wedi taro ar rywbeth go arbennig wrth gomisiynu hon, ond ychydig a wydden ni y byddai’r gyfres yn gymaint o ffefryn ac yn parhau i ddiddanu ac ysgogi sgwrs hyd heddiw.'
Elen Rhys, Cyn-bennaeth Adloniant ac Adloniant Ffeithiol S4C
Sgwrs Dan y Lloer yw un o gyfresi mwyaf poblogaidd y cyfnod ôl-Covid ar S4C, ac mae llyfr newydd yn dathlu llwyddiannau’r gyfres dros y pedair blynedd ddiwethaf.
Marlyn Samuel ac Elin Fflur yw’r awduron, ac yn ôl Marlyn mi gafodd gryn fwynhad o’r gwaith. ‘A finnau'n wyliwr ffyddlon o'r gyfres beth bynnag, pleser pur oedd cael y cyfle arbennig i holi rhai o westeion y gyfres ar gyfer y llyfr,’ meddai. ‘Roedd pawb yn fwy na bodlon i gael sgwrs efo fi ynglŷn â'r profiad o fod ar y rhaglen, ac un peth roedd pawb yn ei ddweud wrtha i oedd cymaint roedden nhw wedi mwynhau cael sgwrs efo Elin o dan y lloer.’
Cafodd Elin Fflur hefyd bleser o’r profiad: ‘Mae wedi bod yn fendigedig cael amser i ail-fyw rhai o’r sgyrsiau ar gyfer creu’r llyfr. Dwi wedi cael fy atgoffa pa mor lwcus ydw i i gael cyfweld rhai o fawrion ein cenedl – mae’n fraint o’r mwyaf cael gwneud y swydd hon! Mi fydd y gyfrol yn amhrisiadwy i mi’n bersonol, ond bydd hefyd, gobeithio, yn ddifyr i’r darllenydd gael cip bach tu ôl i’r llen ar y gyfres.’
Prosiect ar y cyd rhwng Gwasg Carreg Gwalch a chwmni teledu Tinopolis, sy’n cynhyrchu’r rhaglen Sgwrs Dan y Lloer, ydi’r llyfr hwn, gyda’r tîm cynhyrchu’n cyfrannu nifer helaeth o’r lluniau i’r gyfrol hardd, liw llawn. Maent hefyd yn rhannu eu profiadau o weithio ar y cyfresi yn ystod y cyfnodau clo Covid, pan oedd y byd darlledu yn ddiwydiant gwahanol iawn, a phawb yn gorfod cadw pellter o ddau fetr oddi wrth ei gilydd. Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys cipolwg ar y gyfres newydd o Sgwrs Dan y Lloer, sy’n cael ei darlledu ar S4C o 2 Rhagfyr ymlaen.
‘Nid yn aml mae cyfres deledu yn arwain at lyfr, ond mae’n rhoi balchder mawr i ni yng nghwmni Tinopolis fod y gyfrol Sgwrs Dan y Lloer nawr ar gael i’w mwynhau. Mae’n gasgliad arbennig iawn o gyfweliadau, a’r rhain nid yn unig yn adlewyrchu pa mor wych oedd y sgyrsiau gwreiddiol, ond mae’r gyfrol ei hun hefyd yn un brydferth a hawdd ei darllen. Llyfr fydd yn sicr yn apelio at bawb.’
Angharad Mair, Tinopolis
Bydd Sgwrs Dan y Lloer ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com, o 25 Tachwedd 2024.
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awduron neu am gopi adolygu / lluniau o’r gyfrol, cysylltwch â
Gwasg Carreg Gwalch:
Broliant cefn y clawr:
Dewch i gael cip y tu ôl i lenni un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C!
Crëwyd cyfres gyntaf Sgwrs Dan y Lloer i ddiwallu’r angen am raglenni newydd yn ystod clo Covid 19, ac ers hynny mae sgyrsiau Elin Fflur â rhai o’n hwynebau mwyaf cyfarwydd wedi cydio yn nychymyg a chalonnau gwylwyr ledled Cymru a'r tu hwnt. Yn y gyfrol hon mae Elin yn hel atgofion, a rhai o’r gwesteion yn rhannu eu profiadau hwythau, gan egluro pam y bu iddyn nhw drafod pynciau sydd, yn aml, wedi bod yn ddadlennol a dirdynnol.
Nodiadau i’r Golygydd
- Darlledwyd y bennod gyntaf o’r gyfres gyntaf ar 1 Mehefin 2020, gyda Daloni Metcalfe yn westai.
- Er hynny mae 56 o benodau wedi cael eu ffilmio, gyda’r chweched gyfres yn cael ei darlledu o 2 Rhagfyr eleni.
- Mae 5 rhaglen arbennig, awr o hyd, wedi cael eu cynhyrchu: Max Boyce, Matthew Rhys, Dafydd Iwan, Bryn Williams a Noel Thomas (i’w darlledu dros y Nadolig eleni).
- Mae’r llyfr yn lliw llawn, 132 tudalen, maint 120x210mm, yn berffaith ar gyfer yr hosan Dolig.
- Bydd dau lansiad i’r gyfrol a’r gyfres nesaf yn cael eu cynnal:
- Nos Fawrth, 3 Rhagfyr yn Lle Arall, Stryd y Plas, Caernarfon lle bydd Marlyn Samuel yn holi Elin Fflur, yng nghwmni gwesteion arbennig
- Nos Iau, 5 Rhagfyr yn The Red Door Studio, PIPES, Pontcanna, yng nghwmni Elin Fflur a Mark Lewis Jones.
Datganiad i’r Wasg
Chwalu Pen (Gêm Gwis i’r Teulu Cyfan)
CHWALU PEN: GÊM GWIS (Y GANRIF!) YN GYMRAEG – NAWR AR GLAWR!
Eleni, darlledwyd pedwaredd cyfres y gêm gwis unigryw a phoblogaidd Chwalu Pen ar BBC Radio Cymru. Dros y bedair blynedd ddiwethaf, mae amryw o wrandawyr pybyr, ledled Cymru a thu hwnt, yn siŵr o fod wedi rhoi ryw ymgais bersonol ar ambell rownd – gan geisio sgubo drwy weoedd pry cop y co’ i ddod o hyd i’r atebion. Wel, y gaeaf hwn, mae casgliad helaeth o gwestiynau mwyaf heriol y gyfres (dros 1000 ohonynt!) yn cael ei gyhoeddi ar ffurf llyfr – i deuluoedd o Fôn i Fynwy ei fwynhau. Dyma anrheg perffaith i lenwi bob hosan ’Dolig ac i roi gwên (a gwg, o bosib!) ar sawl wyneb. Meddai Arwel ‘Pod’ Roberts, un o gapteiniaid y gyfres: ‘Os ydy tai pobol eraill yn debyg i tŷ ni dros y ’Dolig – neu unrhyw adeg arall, o ran hynny – mae hi’n bwysig cael rwbath wrth law i dynnu sylw’r teulu pan mae ’na ffrae mewn peryg o godi… Fatha gêm fideo neu lyfr Chwalu Pen. A mantais llyfr Chwalu Pen ydy nad ydy o angan batris.’
Dywed Llŷr Huws, cynhyrchydd a chreawdwr y gyfres: ‘Dwi wedi gweld degau o unigolion yn chwysu ac yn drysu wrth recordio’r gyfres dros y blynyddoedd diweddar, ond mae rhoi’r cwis at ei gilydd yn gallu bod hyd yn oed yn fwy o destun ‘chwalu pen!’
‘Mae’n gwis chwithig sy’n gofyn am ateb yn gynta’ fel rheol, cyn ffurfio cwestiynau ar rowndiau hollol random. Ac mae Mari yn g
neud joban wych o ddisgrifio stumiau’r gwesteion, ar gyfer y gwrandawyr, wrth iddyn nhw glywed eu bod nhw am orfod ateb cwestiynau ar ‘Siarcod a Morfilod’ neu “Rip-offs Teledu Cymru”. Mae dyddiau recordio yn bleser ac yn llawn hwyl (ac weithiau’n gallu troi yn draed moch!) efo criw o gapteiniaid ffraeth, a gobeithio fod hynny’n adlewyrchu yn y penodau.
Dwi’n ddiolchgar am y rhyddid rydan ni wedi ’i gael gan Radio Cymru i greu rhywbeth sy’n teimlo’n wahanol i gynhyrchiad arferol. Mae’r cwis yn heriol – fel y gwelwch chi yn y llyfr – ond mae gwybodaeth gyffredinol yn aml yn dod yn ail i chwerthin. Mae’n rheswm i fod yn wirion. Ac os digwydd i rywun feddwl mai ‘Emlyn’ ydi’r ‘Math o farddoniaeth – yn cychwyn efo ‘E’ – y basa chi’n ei weld ar garreg fedd’... disgwyliwch dynnu coes.
Ar lefel bersonol, hefyd, dwi’n falch o fod wedi cael recordio penodau unigryw efo arwyr anfarwol fel Dyfrig Evans a Dewi Pws. Mi oedd gweld Dyfs yn droednoeth yn y stiwdio – ac yn cochi wrth glywed model boblogaidd yn sôn am ddynion yn prynu sanau – yn atgof i’w drysori.’
‘Dwi erioed ’di deall y gêm. O’n i’n hanner gobeithio na fydda na ail gyfres, a rŵan ma ’na LYFR?! Rhyfedd o fyd. Ond, o ddifri ’lly, trwy fod yn rhan o’r miri yma, dwi ’di cael y fraint o gael cwrdd â rhai o bobl mwya diddorol Cymru; rhai o’n i’m ’di clywed amdanyn nhw o’r blaen, rhai dwi’n ffan ohonyn nhw, a rhai dwi’n eu nabod ers blynyddoedd. Yn annatod, erbyn diwedd bob pennod, dwi’n teimlo mod i’n nabod eu heneidiau nhw!
Intense... Hefyd, mae gen i drysorfa o luniau o’na fi’n twin-io efo Bryn Terfel – a ma’r snacs on point.’ – Catrin Mara, un o gapteiniaid y gyfres
‘Dwi wedi chwalu lot o bethau yn y gorffennol, o hot dogs i berthnasau, ond does dim wedi fy chwalu i yn fwy na Chwalu Pen!’ – Welsh Whisperer, un o gapteiniaid y gyfres
Yn frith o wybodaeth a ffeithiau difyr, dyma lyfr sy’n destun crafu a chwalu sawl pen! Mae’r rowndiau’n ferw o gwestiynau’n ymwneud â llu o wahanol feysydd a genres – o ddiwylliant Cymru i anifeiliaid enwog. Yn y gyfrol hwyliog, fywiog hon, mae ’na rywbeth at ddant a chwaeth pawb – yr ifanc a’r hŷn fel ei gilydd. Meddai’r cwisfeistr Mari Lovgreen: ‘Os am ychwanegu at strès a chwys diwrnod ’Dolig neu am rywbeth bach i basio’r amser ar b’nawn dydd Mawrth diflas – hwn ydi’r llyfr i chi!’
Cafodd Llŷr Huws ei fagu ym mhentref Llanllyfni yn Nyffryn Nantlle. Bellach yn gynhyrchydd / cyfarwyddwr llawrydd, mae o wedi gweithio ar gyfresi teledu amlwg fel Helo Syrjeri, Ysgol Ni, Cynefin, Ar Brawf, a nifer o ddigwyddiadau bocsio byw. Mae o wedi teithio i dros hanner cant o wledydd, ac wedi gallu cyfuno sawl diddordeb a swydd wrth wneud hynny.
Ar gael nawr am £7.00 ISBN 9781800996229
Os am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ellyw@ylolfa.com
Meirw Byw
Nofel i oedolion ifanc gan
Rolant Tomos
Gwasg Carreg Gwalch, £8.50
Wyddoch chi be sy’n digwydd o dan eich traed...?
Mae Meirw Byw, nofel gyntaf y cynhyrchydd teledu o Ddolgellau Rolant Tomos, yn mynd â ni i fyd arall, un sy’n cuddio o dan dir Cymru fach. Yn Annwn mae’r antur ffantasïol hon wedi’i gosod, a thasg Rhodri a’i blant, Gwen ac Idris, yw achub eu mam, sydd wedi cael ei chipio i’r is-fyd gan Arawn, y brenin creulon.
Mae’r teulu bach yn gorfod mynd ar antur hollol wallgof – a mynd ar ofyn y meirw byw yn Annwn – er mwyn ceisio cael Heulwen yn ôl. Maent yn cyfarfod â sawl cymeriad annisgwyl ar eu taith wyllt o amgylch Cymru, yn gewri, ysbrydion a zombies sy’n byw ar fferm yn Lledrod. Daw profiadau newydd i’w rhan: mae un o’r plant yn dechrau perthynas ag ysbryd a’r llall yn dod yn frenin ar y Pwcaod (creaduriaid budr, drewllyd sydd wrth eu boddau yn creu helynt).
Dywed Rolant mai ysbrydion oedd ei ysbrydoliaeth wrth ysgrifennu’r nofel. ‘Dwi wedi gweld un a chael y profiad o gwrdd â phedwar dros y blynyddoedd, meddai. ‘Doedd o ddim yn brofiad braf o gwbl, a gwnaeth hynny i mi feddwl sut y byddai pobl eraill yn ymateb i ddod wyneb yn wyneb ag un o’r meirw byw.’
Mae’r awdur newydd yn annog pobl ifanc i roi eu ffônau i lawr a buddsoddi eu amser mewn llyfr: ‘Wrth sgwennu’r nofel, ro’n i’n meddwl am fy mhlant fy hun, a beth fydden nhw’n hoffi ei ddarllen nawr eu bod yn eu harddegau. Dwi’n gobeithio y caiff y darllenwyr foddhad o’r stori ac o gael eu cipio i fyd hollol, hollol wallgof. Mae hi’n nofel antur ffantasi mor od a chyflym â chimwch ar gefn Kawasaki.’
Mae Meirw Byw ar gael o 6ed o Fedi 2024 ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a www.gwales.com.
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â
Gwasg Carreg Gwalch:
Broliant cefn y clawr:
Tydi bywyd ddim yn hawdd i Gwen ac Idris. Mae eu tad wedi colli’r plot a’u mam wedi cael ei chipio i’r is-fyd drwy dwll yn y seler, ac mae’n rhaid iddyn nhw ofyn am gymorth y Meirw Byw er mwyn ei chael yn ôl. Daw’r ddau i ddeall fod ochr gudd i Gymru yn llawn creaduriaid y tu hwnt i’w hunllefau gwaethaf, ac y bydd angen iddynt frwydro yn erbyn pwerau tywyll er mwyn achub eu mamwlad. Nofel ffantasi antur sy’n mynd â chi i rodio yng nglyn cysgod angau ...
Nodiadau i’r Golygydd
- 1. Cafodd Rolant Tomos ei eni yn Nolgellau, ac ar ôl mynychu’r ysgol gynradd yno a threulio dwy flynedd yn Ysgol Gymraeg Llundain, dychwelodd i Ysgol Uwchradd y Gader yn Nolgellau. Astudiodd Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, cyn treulio blwyddyn yn astudio Ffilm yn Nenmarc. Mae wedi gweithio mewn siop lyfrau a chanolfan alw trenau, wedi cyfarwyddo a sgwennu ar gyfer y teledu, helpu busnesau bwyd a diod, a rhedeg bragdy ei hun cyn cymryd y naid a cheisio gwneud bywoliaeth fel awdur. Mae bellach yn byw ym Mro Morgannwg gyda’i deulu.
- Cafodd y nofel hon ganmoliaeth uchel yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen, Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. ‘Dyma nofel wallgo o ddigri sy’n llawn dychymyg,’ meddai Dewi Prysor, un o feirniaid y gystadleuaeth.
- Mae Rolant wrth ei fodd â llyfrau, felly roedd sgwennu yn gam naturiol iddo. ‘Mae llyfrau’n agor drysau newydd i’r dychymyg, ac wastad yn dysgu pethau newydd i ni, fel ymarfer corff i’r ymennydd. Dwi’n hoff o waith Llwyd Owen, Dewi Prysor a Manon Steffan Ros. Ar hyn o bryd dwi’n darllen Borstal Boy gan Brendan Behan, ac mae Sarn Helen gan Tom McCollough nesaf ar fy rhestr ddarllen.’
Darllen yma
Galwad yr Alarch
Gill Lewis
Addasiad: Elen Williams
Gwasg Carreg Gwalch, £7.99, clawr meddal
‘Hi newidiodd fy mywyd i. Hi wnaeth fy achub.’
Mae Dylan dan y don. Ers iddo ddechrau yn yr ysgol uwchradd, mae popeth wedi mynd yn drech nag ef. Erbyn hyn mae wedi cael ei ddi-arddel o’r ysgol ac mae’n rhaid i’w fam ac yntau symud i bentref bychan ar arfordir gorllewinol Cymru. Yno y magwyd ei fam ac yno mae ei daid yn byw.
Ond pan mae Taid yn cynnig i Dylan ddod yn ei gwch gydag ef i’r aber i wylio’r elyrch yn dychwelyd i’w tir gaeaf, mae bywyd Dylan yn newid.
Dyma stori arbennig sy’n adrodd hanes bachgen ifanc sy’n isel ei ysbryd ond yn dod o hyd i oleuni wrth iddo achub un o’r elyrch gwyllt sy’n ymweld â’r ardal bob blwyddyn. Ond daw problemau i wynebu’r pentrefwyr wrth i ddyn busnes lleol fygwth prynu tir gaeaf yr adar a’i droi’n barc gwyliau. All Dylan achub y tir yn ogystal â’r alarch?
Gall hon gael ei mwynhau gan ddarllenwyr 9+ oed, neu’n ieuengach os yn ddarllenwyr hyderus.
“Treialwyd y gyfrol wreiddiol gan ddisgyblion ysgol yn yr Alban er mwyn sicrhau ei bod hi’n darllen yn rhwydd i’r gynulleidfa darged,” meddai Elen Williams golygydd llyfrau plant y wasg. “Fe welwch chi hyn wrth ei darllen, mae’r testun ei hun a’r modd y mae wedi ei osod yn gwneud y llyfr yn llawer caredicach i’r darllenydd – hyd yn oed y rhai sy’n llai hyderus yn eu darllen. Ceir themâu amrywiol; iselder ysbryd, byd natur a phroblemau iechyd ond mae’r rhain oll yn bethau sy’n taro bywydau pobl ifanc ac felly mae’n bwysig fod cyfle iddynt ddarllen amdanynt o bersbectif plentyn yr un oed.”
Bydd adnoddau sy’n cyd-fynd â’r gyfrol ar gael ar wefan Gwasg Carreg Gwalch yn rhad ac am ddim hefyd.
Bydd Galwad yr Alarch ar werth Hydref 18 ymlaen mewn siopau llyfrau ledled Cymru ac ar y we drwy wefan y wasg, www.carreg-gwalch.cymru
a gwefan y Cyngor Llyfrau, www.gwales.com
Nodyn i Olygyddion:
Darlunydd y clawr: Rhian Llewelyn Hughes
Addas ar gyfer oed 9+
Gil Lewis yr awdur gwreiddiol:
Bu Gill Lewis yn gweithio fel milfeddyg ar draws y byd cyn dod yn awdur. Mae’i straeon yn aml yn cynnwys adar ac anifeiliaid ac yn procio darllenwyr ifanc i ystyried eu hamgychedd a gwarchod byd natur.
Os am drefnu cyfweliad â’r awdur neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch drwy e-bost:
marchnata@carreg-gwalch.cymru