Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Y Gwir yn erbyn y Byd


Y Gwir yn erbyn y Byd


Llio Elain Maddocks

Gwasg Carreg Gwalch, £8.99

Nofel i blant sy’n yn dangos y gall hanes fod yn ddrych i fywydau a phrofiadau Cymry ifanc heddiw.

Crynodeb: Mae Ceri wedi symud o Fangor i’r Barri gyda’i mam, yn dilyn Y Digwyddiad. Mae hi’n dechrau’r ysgol yng nghanol tymor, felly mae’n anodd gwneud ffrindiau yn yr ysgol newydd. Mae hi’n drist ac wedi diflasu, ac mae ganddi hiraeth am ei ffrindiau yn y gogledd.

Mae ei mam yn prynu dyddiadur iddi, ac yn ei hannog i ysgrifennu ynddo er mwyn teimlo’n well, ond mae hwn yn syniad hollol wrthun i Ceri.

Mae’r dosbarth Hanes yn derbyn tasg o greu prosiect ymchwil ar thema Iolo Morganwg. Does gan Ceri ddim diddordeb yn y dasg nes iddi ddysgu bod ei thad-cu yn hanu o’r un pentref a Iolo Morganwg ei hun.

Treulia ei gwyliau hanner tymor yn ymchwilio’r cymeriad ecsentrig hwn gyda’i thad-cu, ac mae hi’n dysgu fod gan y cyhoedd ac academwyr ddigon i’w ddweud am Iolo Morganwg. Mae hi’n penderfynu cyflwyno ei phrosiect ar ffurf dyddiadur un o’i hendeidiau oedd yn adnabod Iolo Morganwg, sy’n cydredeg â’i dyddiadur ei hun yn y llyfr.

Dysgwn o ddyddiaduron Ceri ei bod hi’n teimlo’n unig ac yn drist gan fod ei mam a’i thad wedi gwahanu, a’i bod hi’n credu mai hi a’i mam sydd ar fai am eu bod nhw’n byw bywyd diflas yn ei barn hi. Mae gan ei thad bellach gariad newydd – sef y rheswm eu bod nhw wedi symud i’r de, ymhell i ffwrdd o’u hen fywyd.

clawr Y Gwir yn erbyn y Byd

Drwy blethu dyddiadur cyfoes Ceri gyda’r prosiect hanes, mae Ceri’n dysgu amdani ei hun ac am Iolo Morganwg, ac am y paralelau yn eu bywydau. Tra mae’r prosiectau hanes eraill yn y dosbarth yn canolbwyntio ar Iolo'r ffugiwr, Iolo'r twyllwr, neu’r Orsedd, mae prosiect Ceri yn mynd o dan groen y dyn ac yn ei gyflwyno fel ffigwr amlochrog, cymhleth, real.

Drwy’r dyddiaduron hanesyddol sy’n craffu arno, mae hi’n dysgu bod angen cadw ein treftadaeth ar gof, a chreu sefydliadau i warchod ein hanes. Felly mae Ceri’n mynd ati i sefydlu Clwb Cymraeg yn yr ysgol, a thrwyddo yn gwneud ffrindiau newydd, ac yn gweld ei fod yn bosib cyd-dynnu â rhai plant a wnaeth ei bywyd yn anodd ar y dechrau.

Mae hi’n dysgu pwysigrwydd heddwch a thegwch drwy werthoedd a gweledigaeth Iolo, ac felly’n sefyll i fyny drosti ei hun, ac eraill wrth iddyn nhw gael eu bwlio am fod yn wahanol.

Mae hi’n dysgu bod gwerth mewn bod yn radical ac yn lliwgar, ac felly mae hi’n dysgu teimlo balchder ynddi ei hun, yn hytrach na gweld ei bywyd fel un diflas a llwyd.

Fel Iolo Morganwg, mae hi’n gwrthod cow-towio i awdurdod, ac mae gwrthryfela yn rhan o’i hysbryd. Mae hi’n penderfynu bod yn ddewr ac ymweld â’i thad i roi gwybod iddo gymaint y mae wedi ei heffeithio, ac mae’r ddau yn dechrau ail-adeiladu eu perthynas.

Erbyn i Ceri gwblhau ei phrosiect, mae hi’n hapus yn yr ysgol newydd hon. Mae hi’n cyflwyno ei phrosiect i gystadleuaeth genedlaethol, ac yn ennill gwobr. Mae hi a’i ffrindiau newydd yn ymweld â’r Amgueddfa Genedlaethol lle mae seremoni i nodi dau gan mlynedd ers marwolaeth Iolo Morganwg, wedi dysgu am y cymeriad unigryw hwn ac amdanyn nhw eu hunain ar hyd y daith.

Mae Y Gwir yn erbyn y Byd ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg,  drwy www.carreg-gwalch.cymru a ffolio.cymru | Eich Siop Lyfrau Leol Ar-lein

Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch: llanrwst@carreg-gwalch.cymru

Broliant cefn y clawr:

Gan fod Ceri wedi symud i fyw i dde Cymru gyda’i mam ar ganol tymor ysgol, yn dilyn Y Digwyddiad, mae pethau’n anodd iddi yn ei hysgol newydd. Nid yw cyngor ei mam i gadw dyddiadur yn help o gwbl. Ond pan gaiff y dosbarth Hanes dasg i greu prosiect ymchwil ar

Iolo Morganwg, mae Ceri'n dysgu cymaint amdani hi ei hun ag y mae hi am y cymeriad hanesyddol hynod.

Nofel yw hon sy’n gwau ffaith a ffuglen, hanes a hiwmor, drwy blethu dyddiadur cyfoes Ceri

gyda’r prosiect hanes. Wrth gyflwyno anturiaethau Iolo Morganwg, mae'r awdur yn dangos y gall hanes fod yn ddrych i fywydau a phrofiadau Cymry ifanc heddiw.

Yr awdur:

Bardd ac awdur yw Llio Elain Maddocks sy’n wreiddiol o Lan Ffestiniog. Mae wedi cyhoeddi llyfrau i blant ac oedolion, ac mae nifer o’i cherddi i’w gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ac mewn gwahanol gyfrolau.

Yn ei gwaith bob dydd, mae hi’n Gyfarwyddwr y Celfyddydau gydag Urdd Gobaith Cymru, ac yn gyfrifol am gynnig profiadau celfyddydol drwy’r Gymraeg i blant a phobl ifanc ar draws Cymru.

Nodiadau i’r Golygydd

  • Nofel yw hon ar ffurf dau ddyddiadur, ond mae hefyd yn cyflwyno hanes Iolo Morganwg a’i gyfraniad i Gymru.

  • Mae’n ffrwyth ymchwil manwl gan Llio Elain Maddocks am Iolo Morganwg, ac mae’n cyflwyno ei gymeriad, ei hanes a’i gyfraniad i sawl maes yng Nghymru drwy ddyddiadur ffrind iddo o’r cyfnod, a hynny’n plethu gyda dyddiadur cyfoes Ceri, sy’n dysgu am werthoedd ac egwyddorion cadarn Iolo.

  • Cyflwynir hanes Iolo, sydd yn eithaf dieithr i blant Cymru, mewn ffordd greadigol fel rhan naturiol o’r testun.

  • Mae'r gweithgor wedi ei sefydlu i godi arian a chreu cofeb i nodi 200 mlynedd ers marwolaeth Iolo Morganwg ac maent yn credu mai egwyddorion a gweledigaeth Iolo – heddwch, cydraddoldeb, gweithredu yn erbyn pob gormes a rhyfel a chaethwasiaeth – fydd yn ganolog yn ffurf ac ysbryd y gofeb. Nid cerflun o ddyn ond creadigaeth o feini a cherrig o bosib (o gofio mai saer maen oedd Iolo o ran ei grefft gyntaf). Efallai mai 'A oes heddwch?' fydd enw cofeb Iolo.

  • Bydd pecyn gweithgareddau i gyd-fynd â’r nofel ar gael ar wefan Gwasg Carreg Gwalch.