Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Y Dewin Drewi


Y Dewin Drewi


NOFEL PENODAU BYR, LLAWN HIWMOR I BLANT 8 I 11 OED

 

Yr wythnos hon mae nofel ddoniol a drewllyd ar gyfer plant cynradd hŷn yn cael ei gyhoeddi. Mae Y Dewin Drewi: Busnes Od gan Nia Gruffydd yn “hwyl, doniol, a ‘chydig yn wirion,” yn ôl yr awdur. 

 

Meddai Nia Gruffydd:

 

“Ro’n i eisiau sgwennu stori fyddai’n gwneud i blant chwerthin ac a oedd yn gwneud hwyl am ben y pethau mae oedolion yn eu dysgu, ac yn eu dweud wrth blant.  Mae Owi yn meddwl amdano’i hun yn dipyn o entrepreneur, ac yn cynnig gwasanaeth Y Dewin Drewi (gwnewch i’ch digwyddiad diflas ddiflannu). Ac wrth gwrs mae galw mawr gan blant am ei wasanaeth. Ond tydi’r athrawon ddim yn gwerthfawrogi ei lwyddiant o gwbl!  Rhyw stori wirion tafod yn y boch ydi hon, a dwi’n gobeithio bydd y rhai hynny sy’n mwynhau nofelau Wimpy Kid  yn gweld antics Owi Jones yn ddoniol.”

 

Y cyntaf mewn cyfres o dair, mae Y Dewin Drewi: Busnes Od yn nofel hawdd ei darllen gyda phenodau byr i gadw sylw darllenwyr a dipyn o hiwmor toiledaidd. Mae lluniau arbennig James Cottell wedi dod â Owi Jones a’r cymeriadau eraill i gyd yn fyw.

 

Meddai Nia Gruffydd:

“Fe ddaeth yr ysbrydoliaeth tra ro'n i ar drên yn gadael Llundain, a dyma olygfa o athrawes yn checio bagiau'r plant yn ystod trip ysgol yn dod i fy mhen, a dyma'r syniad o sosej rôl efo'r gallu i greu helynt mawr yn yr ysgol yn dechrau gwneud i mi chwerthin - a dyna gychwyn y Dewin Drewi!”

 

Mae’r stori yn dilyn hanes Owi Jones sy’n byw mewn tref – nid anhebyg i dref Caernarfon – efo’i fam a’i dad, a’i frawd bach Twm. A Pero’r ci defaid sili wrth gwrs.  Un o hoff bethau Owi, ar wahân i greu busnes, yw pryfocio ei frawd bach Twm (7 ½ oed)  sydd efo’r anlwc o orfod rhannu llofft efo Owi.

 

Meddai Nia Gruffydd eto:

“Dwi’n gwybod y byddai Owi a’r hogia (ei ffrind gora gora Sam, a’i ffrindia gora, Jac a Berian) wrth eu bodd tasa Y Dewin Drewi : Busnes Od  yn ffeindio ei ffordd i hosan dolig lot o blant eleni.  Ond dwi ddim yn meddwl y byddai Ms Harri, y Brifathrawes, yn cytuno...”

 

Mae Y Dewin Drewi: Busnes Od gan Nia Gruffydd ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa).