Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Parti Plu


Parti Plu


Nofel gan  Myfanwy Alexander

Gwasg Carreg Gwalch, £11.99

Mae dawn dweud Myfanwy Alexander yn syfrdanol Iola Ynyr

Mae ymennydd Alexander tua’r un seis â phlaned Caryl Parry Jones

Ar ôl rhoi hoe i’r ditectif golygus o Faldwyn yn ei nofel ddiwethaf, Cath Fenthyg, mae Myfanwy Alexander yn dychwelyd at Daf Dafis yn ei nofel newydd, Parti Plu!

Mae sawl priodas yn yr arfaeth, gan gynnwys priodas llysfab Daf, ac mae’r ardal yn ferw gwyllt. Ond ar ôl un parti plu lleol, mae un o’r mynychwyr yn cael ei darganfod yn farw mewn sied ieir. Caiff Daf a’i dîm eu galw i ymchwilio, a buan iawn y maen nhw’n darganfod bod gan sawl un yn yr ardal reswm i gasáu’r dioddefwr.

Mae thema briodasol i nofel drosedd yn beth anghyffredin, ond mae’n bwnc sy’n codi’i ben bob haf, fel yr eglura Myfanwy. ‘Dwi ’di bod yn ddigon ffodus i fynychu sawl priodas yn ddiweddar, a bu i un o’m merched i briodi llynedd, felly dwi wedi bod ‘y tu mewn’ i’r broses, fel petai. Mae rhai pobl (rhieni yn fwy na phobol ifanc, yn aml) yn defnyddio priodas fel cyfle i wneud datganiad i’r gymuned am eu llwyddiant, ac ro’n i am archwilio hynny yn y nofel hon. Yn ogystal, mae ’na duedd i chwilio am elfennau newydd ar gyfer priodasau o hyd: wal o flodau, blwch ffoto, siglen mewn lleoliad efo golygfa hyfryd, cert fferins ac ati, ond mae’r pethau hynny’n mynd yn angenrheidiol yn fuan iawn. Wedyn, mae’n rhaid chwilio am gimic newydd arall. Ro’n i am gael chydig o hwyl yn trafod hynny.’

Parti Plu clawr

Er bod digonedd o hiwmor yn Parti Plu, mae’r awdur hefyd yn taro golwg ar ochr fwy difrifol cymunedau gwledig, yn enwedig teuluoedd amaethyddol, a’r pwysau cynyddol sydd arnyn nhw. ‘I rai sy’n cael eu geni i deulu ffermio, mae pris i’w dalu am sicrwydd,’ eglura Myfanwy. ‘Mae plant fferm yn aml yn teimlo dyletswydd, a diffyg dewis. Mae’n rhaid iddyn nhw gyfrannu at y busnes sydd wedi darparu cartref a swydd iddyn nhw, ac os ydi’r hinsawdd ariannol yn heriol, fel y mae ar hyn o bryd, rhaid iddyn nhw feddwl am ffyrdd o ddatblygu’r fferm. I’r rhai mentrus, llawn hyder, dydi hyn ddim yn broblem, ond mae’n anodd i rai sy’n methu gweld ymhellach na’r buarth.  Weithiau, mae pobol yn teimlo dan bwysau mawr, ac yn fodlon gwneud unrhyw beth, bron, i gadw’r fferm i fynd.’

Traddodiad cefn gwlad arall sy’n cael dipyn o sylw yn y nofel hon ydi’r direidi sy’n cael ei wneud ar noson cyn priodas gan ddynion ifanc yr ardal am hwyl. Yn ôl Myfanwy, mae’r traddodiad hwn yn dal i fod yn boblogaidd. ‘Yn ystod y blynyddoedd diweddar, yn fy ardal i,’ eglura, ‘mi wnaeth rhywrai adael llwyth o dail i flocio wtra’r priodfab, i’w atal rhag cyrraedd y briodas. Ers talwm mi oedd llanciau yn codi gridiau gwartheg! Glywes i am rywun yn cuddio sawl larwm yn nho’r tŷ lle roedd teulu’r briodferch yn cysgu cyn y briodas, ac un tro aeth sietin ar dân ar ddamwain yn ystod rhyw giamocs efo  tân gwyllt. Rhaid i chi ddarllen Parti Plu i ddarganfod pa ddireidi sy’n digwydd cyn priodas Siôn a Belle Neuadd!’      

Bydd Cath Fenthyg yn cael ei lansio ar faes Eisteddfod y Garreg Las:

Dydd Mawrth, Awst 4ydd am 3 yp

Stondin Merched y Wawr

Bydd y nofel ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£11.99), ar Ffolio.com ac ar wefan www.carreg-gwalch.cymru o 30 Gorffennaf, 2026.

Broliant cefn y clawr:

“Allwn ni ddim bod yn siŵr mai ymchwiliad i lofruddiaeth ydi hwn, ond ar y llaw arall, anaml iawn mae rhywun yn crwydro i mewn i sied ieir yn noeth a disgyn yn farw yno...”

Y bore ar ôl parti plu, caiff corff ei ddarganfod mewn sied ieir. Er mwyn ymchwilio i’r digwyddiad mae’n rhaid i’r Arolygydd Daf Dafis dyrchu i gefndir lliwgar y dioddefwr, a hanes hynod teulu’r fferm a’u cymdogion.

All yr achos ddim digwydd ar amser mwy anghyfleus i Daf, gan fod ei lysfab yn priodi o fewn yr wythnos, a thad y priodfab yn bygwth galw NATO i gadw’r heddwch.

Nofel dditectif am deulu, cymuned, ieir, drygioni a macarons.

Magwyd Myfanwy Alexander yn Sir Drefaldwyn, ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o lodesi mewn tŷ to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu. Mae hi wedi cyhoeddi chwe nofel, sawl un wedi’i haddasu i’r Saesneg.

Nodiadau i Olygyddion

  • Mae Myfanwy Alexander yn awdur pump o lyfrau ditectif, dau ohonynt wedi’u cyfieithu i’r Saesneg: A Oes Heddwas (llofruddiaeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol), Pwnc Llosg (llofruddiaeth Aelod o Senedd Cymru), Y Plygain Olaf (llofruddiaeth yng nghyfarfod Plygain), Mynd fel Bom (ffrwydrad ar reilffordd fach ym Maldwyn) a Coblyn o Sioe (llofruddiaeth yn y Sioe Fawr). Mae ei chweched nofel, Cath Fenthyg, yn dilyn hynt a helynt Cath, gwraig fferm yn mynd drwy dor-priodas.

  • Mae’r nofel hon yn trafod unigrwydd ymysg y gymuned amaethyddol, a’r rhaniad sydd rhwng trigolion cynhenid yr ardal a’r rhai hynny sydd wedi ymfudo i’r ardal i chwilio am fywyd mwy ‘amgen’.

  • Mae’r tywydd yn Sir Drefaldwyn yn hyfryd ym mhob un o nofelau Myfanwy, gan ei bod yn hoffi dangos ei milltir sgwâr hoff yn ei holl ogoniant. (Mae un o’i nofelau wedi’i gosod yn y gaeaf, ond yn honno mae’r eira yn hudolus!)

Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â

Gwasg Carreg Gwalch:

llanrwst@carreg-gwalch.cymru