Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Meynywod Anweledig
Meynywod Anweledig
Datganiad i’r Wasg
Menywod Anweledig
Nofel ddystopaidd gan Rebecca Roberts
Gwasg Carreg Gwalch, £9.99
Fe wnaeth y nofel hon ddal fy sylw o’r dechrau
Ifan Morgan Jones
Gyda’i nofel newydd, mae’r awdures sy’n wreiddiol o Brestatyn, Rebecca Roberts, yn mentro i Unol Daleithiau America y dyfodol agos. Mae Menywod Anweledig yn dilyn rhwydwaith ddirgel sy’n gweithredu’n danddaearol i sicrhau gofal a chymorth i’w cyd-fenywod mewn cyfnod lle mae hawliau menywod yn deilchion ac unrhyw ymyrraeth feddygol i feichiogrwydd yn drosedd.
Mae’r nofel hon yn wahanol iawn i’w gwaith blaenorol... felly pam ysgrifennu nofel ddystopaidd? ‘Ar ôl astudio The Handmaid’s Tale a 1984 yn yr ysgol, es i drwy gyfnod o ysgrifennu agoriadau i nofelau dystopaidd neu ôl-apocalyptaidd,’ eglura Rebecca. ‘Felly roedd gen i hedyn o syniad yn fy mhen ers hynny. Pan welais fod un o gystadlaethau ffuglen yr Eisteddfod Genedlaethol yn gofyn am agoriad nofel wedi’i lleoli y tu allan i wledydd Prydain, roedd hynny’n sbardun i mi drosglwyddo’r egin syniad y tu allan i Gymru.’
Ond pam yr Unol Daleithiau? ‘Mae America’n hawlio sylw pawb ar hyn o bryd, am resymau amlwg, ac rydw i’n fwy cyfarwydd â diwylliant a hanes America na gwledydd fel Affganistan neu Wlad Pwyl. Roedd hi’n haws ysgrifennu am America oherwydd y traddodiad o’r ‘berthynas arbennig’ – ac yn wir, roedd hynny’n ddigon o reswm ynddo’i hun. Mae rhai pobl ym Mhrydain yn edrych ar America i arwain y ffordd, a rhai pobl yn America yn ariannu ymgyrchoedd i ledaenu dylanwad America ar draws y byd. Ofnaf fod yr eithafiaeth sy’n cyfyngu ar hawliau dinasyddion America am groesi’r Iwerydd, os na wnawn ni barhau i’w wrthwynebu.’
Wrth ddarllen y nofel, byddai’n deg credu bod Rebecca wedi rhag-weld y dyfodol. Dechreuodd ysgrifennu’r nofel yn ystod tymor cyntaf Trump. ‘Sawl tro wrth lunio’r plot,’ eglura, ‘meddyliais tybed a fyddai o’n gredadwy – allai’r sefyllfa waethygu i’r fath raddau? Ond ers dechrau drafft cyntaf y nofel rydw i wedi gweld y wladwriaeth yn saethu pobl am brotestio’n heddychlon, yn arestio menywod a gollodd blentyn ar amheuaeth o lofruddiaeth, yn alltudio miloedd heb air o rybudd, yn cadw menyw ar beiriant cynnal bywyd ar ôl iddi farw, fel deorydd dynol. Mae’n teimlo fel petawn i wedi proffwydo’r dyfodol, ac yn gorfod gwylio hunllef erchyll yn dod yn wir.’
Er bod y nofel wedi’i gosod yr ochr arall i Fôr Iwerydd, mae un o’r prif gymeriadau yn Gymraes. Magwyd Hannah ar lethrau Eryri – dim ond yn ei hugeiniau hwyr y symudodd hi i fyw yn America, felly mae arferion a diwylliant y lle yn dal i fod yn dipyn o ddirgelwch iddi. Trwy ei llygaid hi, felly, mae'r darllenydd yn dod i ddeall byd y nofel. Medd Rebecca, ‘Mae Hannah wedi colli pawb a phob dim sy’n bwysig iddi, ond dydi trawma’r gorffennol ddim wedi ei suro na’i chwalu... eto. Mae hi’n ofalgar ac yn dyner, sy’n gryfder ac yn wendid. Er iddi fyw yn America am ryw bum mlynedd, mae cymaint am y lle yn ddirgelwch iddi, ac mae hi’n ddiolchgar am arweiniad a nerth Michelle, un arall o fenywod y Rhwydwaith.’
Er mai menywod cryf ydi prif gymeriadau’r nofel, nid nhw sy’n rheoli eu ffawd eu hunain. ‘Bob tro rydw i’n edrych ar y newyddion neu’r cyfryngau cymdeithasol mae’n teimlo fel petai ’na stori newydd am ddyn mewn awdurdod, neu ddyn oedd yn arfer bod yn uchel ei barch, yn cael ei amau neu ei gyhuddo o drosedd yn erbyn menywod,’ eglura’r awdur. ‘Rydw i’n credu bod y gyfundrefn heddiw yn galluogi pobl â digon o bres neu rym i wneud be bynnag hoffen nhw ac osgoi goblygiadau a chyfiawnder. Mae’r ystadegau ynglŷn â thrais yn erbyn menywod a merched yn frawychus, ac anaml iawn y mae’r system gyfreithiol yn darparu gwir gyfiawnder i’r dioddefwr – os gaiff hi wrandawiad o gwbl. Yn anffodus, mae’r batriarchaeth yn fyw ac yn iach, ac mae rhai carfanau gwleidyddol yn benderfynol o gryfhau statws dynion eto, ar draul hawliau menywod. Dyna oedd man cychwyn y nofel hon. Ond gyda chanlyniadau’r etholiadau diweddar yn yr Unol Daleithiau, dwi’n gobeithio fod y llanw ar droi.’
Bydd Menywod Anweledig ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£9.99), ar Ffolio.com ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru o 16 Tachwedd 2026.
LANSIAD: Nos Lun, Tachwedd 23ain am 7.30yh
Siop Bys a Bawd Pawb, Llanrwst
Croeso i bawb – mynediad am ddim
Broliant cefn y clawr:
Unol Daleithiau America. Y dyfodol agos.
Mae bywyd yn mynd yn gynyddol anoddach, y Wladwriaeth yn dilyn pob symudiad, a hawliau menywod yn diflannu, hyd yn oed dros eu cyrff eu hunain. Wrth iddi ganfod ei hun mewn sefyllfa argyfyngus, mae’n rhaid i un ferch ifanc roi ei ffawd yn nwylo criw o ymgyrchwyr tanddaearol...
Nofel ddystopaidd am fyd lle mae menywod yn gorfod torri’r gyfraith i oroesi.
Am yr Awdur:
Magwyd Rebecca Roberts yn Mhrestatyn. Ers iddi raddio o Brifysgol Bangor gyda gradd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol mae wedi gweithio fel athrawes, swyddog datblygu, gweinydd dyneiddiol a chyfieithydd.
Derbyniodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg yn 2017 er mwyn datblygu #Helynt, nofel i bobl ifanc a a enillodd wobr Tir Na n-Og a Llyfr y Flwyddyn. Mae hi wedi cael ei mentora yn ei gwaith creadigol gan Bethan Gwanas a Manon Steffan Ros. Cyfrannodd ysgrif i’r gyfrol O, Mam Bach (Gwasg y Bwthyn, 2017) ac mae wedi dod i’r brig sawl tro mewn cystadlaethau ysgrifennu yn Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Mae ei gwaith wedi cael ei ddarlledu ar Radio Cymru a pherfformiwyd sgript fer o’i heiddo gan gwmni cynhyrchu.
Y nofel gyntaf iddi ei chyhoeddi oedd Mudferwi yn 2019, a chafodd nofel Saesneg o’i gwaith i bobl ifanc, Eat. Sleep. Rage. Repeat, ei chyhoeddi gan Gomer yn 2020. Cyhoeddwyd #Helynt, ei nofel gyntaf i bobl ifanc yn y Gymraeg, hefyd yn 2020, a’r dilyniant, Mwy o Helynt, yn 2023. Cyhoeddwyd Chwerwfelys, dilyniant i Mudferwi, yn 2021, Curiad Gwag yn 2022 a’r dilyniant, Diwedd y Gân, yng ngwanwyn 2025. Mae cyfieithiadau o Curiad Gwag, #Helynt a Mwy o Helynt wedi eu cyhoeddi.
Nodiadau i Olygyddion
- Dyfarnodd Ifan Morgan Jones y wobr gyntaf i bennod agoriadol y nofel hon yn y gystadleuaeth ‘Dechrau nofel wedi’i gosod y tu hwnt i Wledydd Prydain’ yn Eisteddfod Genedlaethol Rhodda Cynon Taf, 2024. Yn ei feirniadaeth, meddai, ‘Roedd yr elfen o ddirgelwch … wedi dal fy niddordeb tan y diwedd. Ai’r Margaret Attwood Cymraeg sy’n gyfrifol am sgwennu’r nofel hon?’
- Cyfieithydd rhan-amser i’r Mudiad Meithrin yw Rebecca o ran ei gwaith bob dydd. Cyn hynny bu’n Swyddog Datblygu’r Gymraeg i Fentrau Iaith Fflint a Wrecsam, yn athrawes Gymraeg yn ysgol uwchradd Treffynnon, ac yn athrawes Saesneg yn Ysgol Morgan Llwyd.
- Bu’r awdur Manon Steffan Ros yn mentora Rebecca wrth iddi ddatblygu’r nofel Mudferwi. Dywedodd amdani, ‘Mae Rebecca Roberts yn un o’r awduron prin sy’n eich tynnu i mewn i stori yn llwyr ... Sgwennu gafaelgar, ysgafn gyda chymeriadau sy’n hawdd uniaethu â nhw.’
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â
Gwasg Carreg Gwalch: