Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Huw Fyw - Sgript y ddrama lwyfan
Huw Fyw - Sgript y ddrama lwyfan
Sgript y ddrama lwyfan gan Tudur Owen
Gwasg Carreg Gwalch, £8.99
Dyddiad Cyhoeddi: Ebrill 10fed, 2026
‘Digri, dyrys a rhagorol’
Malachy Owain Edwards, Golwg
‘A funny, moving and sentimental tribute to those scarred by the Second World War’
Nicholas Davies, The Stage
Ar drothwy ail daith Theatr Cymru o ddrama lwyfan gyntaf Tudur Owen, Huw Fyw, mae sgript y ddrama yn cael ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch.
Yn dilyn poblogrwydd taith gyntaf Theatr Cymru o ddrama lwyfan Tudur Owen, mae’r cwmni yn atgyfodi Huw Fyw y mis hwn – ac mae Gwasg Carreg Gwalch yn cyhoeddi’r sgript mewn llyfr i gyd-fynd â’r daith.
Caiff Huw Fyw ei gyhoeddi ar Ebrill 10fed, ac yn ogystal â’r sgript lwyfan lawn, mae’r gyfrol yn cynnwys:
-
Rhagair gan Tudur Owen
-
Cyflwyniad gan Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru
-
Geirfa er mwyn cefnogi siaradwyr newydd i drafod y ddrama
-
Taflenni addysgol i athrawon a darlithwyr allu astudio’r testun a themâu’r ddrama gyda myfyrwyr TGAU, Lefel A a cholegau
Mae’r theatr yn ei hanfod yn gyfrwng i’w werthfawrogi’n fyw, ac ar lafar, ond roedd Tudur Owen yn awyddus i’w sgript fod ar gof a chadw ar ddu a gwyn. ‘Dechreuodd siwrnai Huw Fyw ar y dudalen,’ eglura, ‘a doeddwn i ddim am i’w daith ddod ben. Dyma gyfle felly i roi ail fywyd i’r stori fel gwaith sy’n gallu sefyll ar ei ben ei hun.’
Ond pwy ydi Huw Fyw? Yng Ngŵyl Fringe Caeredin yn 2022 yr ymddangosodd o am y tro cyntaf,’ medd Tudur, ‘yn fy sioe gomedi stand-yp ALIVE HUW. Egin y syniad ar gyfer y cymeriad oedd cyngor glywais i gan hen filwr: “Paid byth â trio dy ora. Cofia hynny – ella neith o safio dy fywyd di.” Roedd o’n gwbl grediniol ei fod wedi goroesi’r Ail Ryfel Byd drwy lynu wrth y darn hwn o ddoethineb. Wn i ddim i sicrwydd ai gwir oedd hynny ai peidio, ond rydw i wedi trysori’r cyngor gwrthryfelgar a direidus hwn ers hynny. Mi ddatblygodd y cymeriad o fanno.’
Medd Steffan Donnelly, cyfarwyddwr Artistig Theatr Cymru, “Pan wnes i gyfarfod Tudur Owen yn 2022 a gofyn a oedd o awydd sgwennu i’r theatr, fe ddechreuodd siarad yn frwdfrydig am y cymeriad cymhleth ’ma oedd yn hoelio fy sylw yn syth. Dyna oedd fy nghyflwyniad cyntaf i Huw Fyw – cymeriad sydd erbyn hyn yn teimlo fel cyfaill go iawn. A ninnau ar drothwy taith newydd i’r ddrama hynod boblogaidd yma, dwi’n falch iawn bod y sgript arbennig yma gan Tudur bellach mewn print ac ar gael i’n cynulleidfaoedd ei phrynu a’i mwynhau adre. Bydd y gyfrol hon nid yn unig yn ymestyn bywyd y cynhyrchiad ond mae hefyd yn cynnig deunydd addysgol gwerthfawr i archwilio, dadansoddi ac ail-fyw’r ddrama ymhell ar ôl i’r daith theatrig ddod i ben.”
Ers y perfformiad cyntaf o’r ddrama ym Mai 2025, mae Huw Fyw wedi bachu sylw cynulleidfaoedd ledled Cymru. Nawr, mae modd i bawb fynd â Huw adre efo nhw.
Bydd y gyfrol ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£8.99), ar Ffolio.cymru ac ar wefan www.carreg-gwalch.cymru o 10 Ebrill, 2026.
Broliant cefn y clawr:
‘Paid byth â trio dy ora, cofia hynna, ella neith o safio dy fywyd di.’
Dyma stori wir (wel, gwir-ish) am Huw – neu Huw Fyw fel mae pawb yn ei alw fo, ers i’r Huw arall yn y pentra farw yn yr Ail Ryfel Byd.
Dydi Huw Fyw ddim yn coelio mewn ffawd. A dydi o ddim yn coelio mewn gwenu chwaith… na gwastraff, nac unrhyw beth sy’n gofyn iddo godi o’i gadair. Ond ar ôl tro lwcus, mae Huw yn cychwyn ar antur fythgofiadwy o’i bentra bach i ganol Llundain; antur fydd yn newid cyfeiriad ei fywyd am byth ac yn dysgu iddo sut i fyw at heddiw, heb anghofio’r gorffennol.
80 mlynedd ers i’r Ail Ryfel Byd ddod i ben, dyma sgript drama lwyfan gyntaf Tudur Owen am obaith, diogi a sut mae gwneud pedair paned gydag un bag te!
Yn cynnwys taflenni gwaith i ysgolion a cholegau.
Bywgraffiad yr Awdur:
Mae Tudur Owen yn awdur, sgriptiwr, comedïwr a darlledwr. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf, Y Sw, yn 2014.
Nodiadau i Olygyddion:
-
Bydd cynhyrchiad Theatr Cymru o Huw Fyw ar daith rhwng Ebrill 15fed a Mai 8fed. Mae manylion y daith ar wefan y cwmni: www.theatr.cymru/Huw Fyw
-
Mae nofel Tudur Owen, Y Sw (Gwasg Carreg Gwalch, 2014) ar gael ym mhob siop lyfrau Cymraeg.
-
Bydd sgript Huw Fyw ar werth ym mhob siop lyfrau Cymraeg o 10 Ebrill. Bydd copïau hefyd ar werth gan siop Awen Menai ar ôl y perfformiad yn Pontio, Bangor, ar 2 Mai (canolfannau eraill i’w cadarnhau).
-
Tudur Owen sy’n actio Huw yn y cynhyrchiad. Leah Gaffey sy’n chwarae rhan Wendy yn nhaith 2026, ond mae gweddill cast 2025 yn dychwelyd.
-
Theatr Cymru yw’r Theatr Genedlaethol Gymraeg, sy'n creu profiadau theatr beiddgar i ddifyrru ac ysbrydoli pobl Cymru. Ers ei sefydlu yn 2003, mae’r cwmni wedi cofleidio clasuron y theatr Gymraeg yn ogystal â gwaith newydd ac arbrofol, a hefyd yn hwyluso prosiectau creadigol, lles a chyfranogol ledled y wlad. Mae Theatr Cymru bellach yn theatr deithiol glodwiw, sy’n gosod Cymru a’i phobl ar y map.
Gwefan: www.theatr.cymru
Instagram: @theatr.cymru
YouTube: /Theatr
Facebook: /TheatrGenedlaetholCymru
Tiktok: @theatr.cymru
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch:
llanrwst@carreg-gwalch.cymru