Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Hanes Byw 13


Hanes Byw 13


 

 

Hanes Byw 13 – Hydref 2026

36 Tud A4

 

 

 

Disgrifiad

Croeso i rifyn yr hydref. A ninnau ym

misoedd cyntaf llywodraeth newydd Plaid

Cymru, teg ystyried y llwybr hir at

ganlyniad hanesyddol mis Mai eleni – a

dyna a wna’r cyn-arweinydd Ieuan Wyn

Jones, mewn erthygl sy’n mynd â ni’n ôl at

1886 a chyfraniad Tom Ellis. Ond beth am

y llwybr ymlaen? Beth all hanes, a

phrofiadau gwledydd eraill, ei gynnig inni

fel canllaw? Daw’r ddeupeth yn un mewn

erthygl am amgueddfa yn Copenhagen

sy’n olrhain hanes hapusrwydd!

Galwyd yn y neges olygyddol ddiwethaf

am roi mwy o le i hanes Cymru – a lle gwell

i ddechrau nag yn ein hysgolion? Ond er y

diwygiadau diweddar i’r maes llafur, heb

ganllawiau clir ymddengys fod gormod o

athrawon yn dal i weld astudio hanes

Cymru fel opsiwn, yn hytrach nag fel y

man cychwyn angenrheidiol ar gyfer deall

ein lle yn y byd. Dylai’r ddau fynd law yn

llaw, fel y noda Elin Jones yn ei cholofn

reolaidd, ‘Y Gair Olaf’.

Cyn cloi, rhaid diolch i un o’n colofnwyr

eraill, sef Twm Elias, nid yn unig am

gyfrannu at bob rhifyn o Hanes Byw ers y

cychwyn, ond hefyd at bob rhifyn o Llafar

Gwlad am ddeugain mlynedd cyn hynny –

record anhygoel! Daeth ei dymor i ben ond

ni bydd yn segur, gan y bydd yn parhau yn

ei waith fel golygydd Fferm a Thyddyn.

Diolch, Twm – a diolch i chi, ein

darllenwyr, am gefnogi Hanes Byw.

Mwynhewch y rhifyn hwn!

 

 

Cynnwys a chyfranwyr

2 Cyfraith Hywel ddoe a heddiw

Yr Athro Sara Elin Roberts

3 (a 36) Murlun

4 Alcohol a’r ‘Sul Cymreig’, 1881–1996

Mari Wiliam

6 Rhaglenni radio Cymraeg – o Ddulyn!

Andy Bell

8 Thomas Edward Ellis ac etholiad 1886

Ieuan Wyn Jones

11 Crafu dan yr Wyneb: Ailymweld â

Threfaldwyn Rhys Mwyn

12 Pont y Borth yn dathlu’r 200 – 10 o

ffeithiau annisgwyl J. Richard Williams

14 Geiriau Gruff: Mil trichant, meddant

i mi... Gruffudd Antur

16 Ar y cledrau Cymreig i Amwythig

Myrddin ap Dafydd

18 Moldofa – y wlad fechan sy’n ceisio

closio at Ewrop Mared Gwyn

20 Sidney Colwyn Foulkes – pensaer a

anghofiwyd? Adam Voelcker

22 Petai Petasai: Gwleidyddiaeth, sawl

ffliwc a Pele Dylan Iorwerth

24 Lykkemuseet – yr Amgueddfa

Hapusrwydd Myrddin ap Dafydd

26 Dan gysgod Mynydd Epynt Elan Mabbutt

28 Seryddwyr cynnar Cymru Glen George

30 Adolygiadau Elain Gwilym; Mared

Llywelyn

32 T. J. Hughes (1888–1933) –

entrepreneur o Gymro Lerpwl Gari Wyn

34 Y Gair Olaf: Creu cysylltiadau

Elin Jones