Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Hanes Byw 12


Hanes Byw 12


Croeso i rifyn yr haf. Ysgrifennaf y geiriau hyn drannoeth y canlyniad hanesyddol yn etholiadau’r Senedd.

Mae’n gyfnod newydd gyda Phlaid Cymru ar fin ffurfio llywodraeth am y tro cyntaf, mewn Senedd estynedig, a phobl 16–18 oed wedi cael pleidleisio am y tro cyntaf eleni ...

Wrth edrych tua’r dyfodol yn y Gymru newydd hon, gobeithiwn y bydd y pleidiau oll yn rhoi ystyriaeth briodol i’n gorffennol – sy’n fwy amlweddog nag y byddai llawer yn tybio. Yn y rhifyn hwn, er enghraifft, cawn erthygl sy’n olrhain perthynas hir Cymru ac Islam; ac erthygl arall sy’n dangos fod herio’r frenhiniaeth yn rhywbeth sy’n dyddio’n ôl i Oes y Tywysogion.

Ym mis Awst eleni, bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Sir Benfro ac mae sawl erthygl yn y rhifyn hwn yn cyffwrdd â hanes y sir honno – cenhadwr o ardal Carn Ingli fu’n ymgyrchu yn erbyn y fasnach gyffuriau yn yr India; llofruddiaeth erchyll yn Llanbedr Felffre; a golwg ar hanes y garreg las enwog a roes ei henw i fro’r Eisteddfod eleni.

Ond cawn flas ar hanes cyfoethog sawl ardal arall hefyd, o fysus Arfon, a phêl-droediwr enwocaf Pwllheli, i Arglwyddes Llanofer a’r amgueddfa i’r Cymry ym mhellafoedd Nebraska.

Gobeithiwn felly fod yma rywbeth at ddant pawb – mwynhewch y darllen!

Clawr Hanes Byw 12