Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Gwen ac Arianrhod 2 Cantre'r Gwaelod


Gwen ac Arianrhod 2 Cantre'r Gwaelod


Lleucu Gwenllian 

Gwasg Carreg Gwalch, £9.99

Nofel graffig hyfryd i blant sy’n dilyn taith Gwen ac Arianrhod i Gantre’r Gwaelod.

Crynodeb: Stori llawn hud a lledrith am Gwen yn cyfarfod ei ffrind Arianrhod ar y traeth bob dydd yn ystod gwyliau’r haf. Mae Gwen wir eisiau cael mynd i Gantre’r Gwaelod gydag Arianrhod, er mwyn i’r ddwy gael darganfod mwy ar y lle, ac mae ei ffrind wrthi’n paratoi gwisg arbennig iddi ar gyfer hynny. Daw perthynas y ddwy gyda’u mamau yn amlwg wrth i Arianrhod gael benthyg cylchgronau ffasiwn gan Gwen. Rhai ei mam ydynt, ond does gan Gwen ddim diddordeb mewn mynd i siopa dillad gyda’i mam, tra bod Arianrhod yn dyheu am hynny, ond yn gwybod bod ei mam hi’n rhy brysur yn rhedeg y deyrnas i roi sylw iddi.  

Yn y cyfamser, mae Gwen wedi setlo’n well yng Nghricieth, ac yn aelod o’r tîm nofio sy’n paratoi at gystadleuaeth fawr yng Nghaerdydd, a tra bod rhai o’r merched yn cnesu ati, mae Heledd yn dal i fod yn annifyr iawn. Mae hynny, a’r ffaith eu bod yn nofio yn yr un pwll lle collwyd ei ffrind Non, yn gwneud pethau’n anodd, ond gyda chefnogaeth Arianrhod o bell, llwydda Gwen i godi safle’r tîm iddynt ennill gwobr. 

Pan ddaw pethau’n barod am yr antur fawr yng Nghantre’r Gwaelod, caiff Gwen weld rhyfeddodau a dysgu mwy am fwyd, bywyd gwyllt a byd natur y lle anhygoel. Caiff hefyd gyfarfod rhai cymeriadau newydd a rhai y mae hi wedi eu gweld o’r blaen. Mae’r ddwy yn tarfu ar ffrae rhwng mam a thad Arianrhod, a daw Gwen i ddeall nad yw’r deyrnas yn lle mor ddedwydd ac roedd hi wedi ei ddychmygu. 

Gan fod y gwyliau haf yn dirwyn i ben, mae Arianrhod yn rhoi cragen yn anrheg arbennig i Gwen, sy’n eu galluogi i gadw mewn cysylltiad cyson o hirbell. Wrth siarad, sonia Gwen am y dyn od oedd yn syllu arni a’i fod wedi sibrwd enw chwaer Arianrhod. Hwn yw’r dyn sydd wedi bod yn holi am hen chwedlau a storïau am fôr forwynion yn yr ardal. Beth yw’r gyfrinach dywyll am Branwen, chwaer Arianrhod? Beth yw cynlluniau ei mam ar ei chyfer? 

Clawr Gwen ac Arianrhod 2 Cantre'r Gwaelod

Wrth gynllunio a darlunio’r gyfrol hon dywedodd Lleucu Gwenllian: ‘Dwi'n gobeithio bydd y darllenwyr yn gallu gweld eu hunain yn y llyfr, ac yn cael rhyw fath o ddihangfa i'r byd hud a lledrith – dyna oedd fy hoff beth i am ddarllen pan oeddwn i'n fach!

Creda Lleucu bod llais pobl ifanc yn bwysig yn y byd llenyddol, a’i chyngor i eraill ynglŷn â dechrau ysgrifennu fyddai: ‘Dydi adrodd stori ddim yn gorfod bod yn un peth penodol, nac yn rhywbeth sy'n dilyn strwythur caeth – mae gan straeon llafar, comics, ffilmiau a straeon sydd wedi eu hadrodd yn gyfan gwbl drwy ddarlunia’r potensial i fod yr un mor bwerus a nofelau mawr, trwm; felly pa bynnag gyfrwng sy'n caniatáu i chi fynegi eich hunain, ewch amdani! 

Mae Gwen ac Arianrhod, 2. Cantre’r Gwaelod ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a ffolio.cymru | Eich Siop Lyfrau Leol Ar-lein

Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch: llanrwst@carreg-gwalch.cymru

Broliant cefn y clawr:

Er gwaetha’r trafferthion ar y dechrau, mae Gwen wedi setlo’n well yng Nghricieth erbyn hyn – mae’n aelod o’r tîm nofio ac yn paratoi at gystadleuaeth fawr yng Nghaerdydd.

A hithau’n wyliau’r haf, mae Gwen ac Arianrhod yn cyfarfod ar y traeth bob dydd, y ddwy ffrind yn torri’u boliau eisiau darganfod mwy o Gantre’r Gwaelod gyda’i gilydd – ond daw Gwen i ddarganfod nad ydi’r lle yn berffaith, a bod ambell gyfrinach dywyll yn cuddio o dan yr wyneb.

Dyma stori am drafferthion tyfu i fyny a datblygiad cyfeillgarwch, am obaith ac am gydweithio – a hud a lledrith yn gwau drwy’r cyfan. 

Yr awdur:

Darlunydd sy’n wreiddiol o Flaenau Ffestiniog yw Lleucu Gwenllian, ond ar hyn o bryd mae’n  byw yn Macedonia gyda’i gŵr.

Cafodd ei gwaith ei ysbrydoli gan blentyndod a dreuliwyd ym mynyddoedd prydferth Eryri, a’r cariad at natur, chwedloniaeth a’r iaith a ddatblygodd yno. Ei phrif ffocws oedd darlunio llyfrau plant, ond erbyn hyn mae wedi datblygu’n awdur a darlunydd, gan iddi gyhoeddi Chwedl Calaffate a ysbrydolwyd gan ymweliad â’r Wladfa, cyn cyhoeddi Gwen ac Arianrhod, y llyfr cyntaf yn y gyfres hon a enillodd wobr Tir Na-Nog iddi yn 2026.

Sylwadau’r Panel Beirniaid gwobrau Tir Na-Nog am Gwen ac Arianrhod

Dywedodd Rhys Dilwyn Jenkins, cadeirydd y panel beirniaid: “Roedd y panel oll yn gytûn fod y stori hon yn torri tir newydd ymhlith llyfrau Cymraeg. Mae ffurf a dyluniad y stori yn greadigol ac yn trafod pynciau amrywiol mewn ffordd afaelgar. Mae’r stori’n plethu’r hen a’r newydd ac yn cael ei hadrodd ar ffurf darluniau, ac rydyn ni’n profi emosiynau di-ri trwyddi draw – a hynny gydag ychydig iawn o eiriau ar y tudalennau! Rhaid canmol y creadigrwydd a’r sgìl oedd eu hangen i ddod â’r stori hyfryd hon yn fyw; mae’n cyfrannu at gyfeiriad llenyddiaeth Gymraeg gyfoes ac yn creu rhywbeth modern i ddarllenwyr ei ddarllen a’i fwynhau.”

Nodiadau i’r Golygydd

  • Nofel graffig arbennig arall gan awdur y gyfrol Gwen ac Arianrhod, enillydd categori uwchradd Gwobrau Tir Na-Nog 2026.

  • Lleucu Gwenllian yw awdur y stori a hi sydd wedi darlunio’r cyfan yn ei harddull arbennig ei hun. 

  • Wedi llwyddiant ysgubol ei chyfrol gyntaf Gwen ac Arianrhod, fel nofel graffig i blant yn y Gymraeg, mae’r stori hon yn ddilyniant sy’n parhau ag anturiaethau’r ddwy ffrind sy’n byw mewn dau fyd hollol wahanol.

  • Dyluniwyd y gyfrol gan Eleri Owen, dylunydd Gwasg Carreg Gwalch mewn cydweithrediad â Lleucu.