Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Dan Warchae
Dan Warchae
Datganiad i’r Wasg
Dan Warchae
Nofel Rhif 15
gan
John Alwyn Griffiths
Gwasg Carreg Gwalch, £9.99
Dyddiad Cyhoeddi: Tachwedd 13eg, 2026
‘Mae’r awdur yn nabod ei fyd.’
Ffion Dafis
‘Mae hon unwaith eto’n glincar, yn llawn trais, dirgelwch a chyffro. Yn wir, mae John yn feistr ar y nofel dditectif Gymraeg.’
Marlyn Samuel
Mae pob un o nofelau ditectif y cyn-blismon o Fôn, John Alwyn Griffiths, yn trafod pynciau perthnasol a chyfoes. Y tro hwn, mae’r pwnc dan sylw yn un sy’n rhannu’r farn gyhoeddus drwy wledydd Prydain: lletya ceiswyr lloches.
Mae hen wersyll milwrol ar gyrion tref Glan Morfa yn cael ei ddefnyddio i letya ceiswyr lloches – pobl y ‘cychod bach’ – tra mae eu ceisiadau i gael aros yn y Deyrnas Unedig yn cael eu prosesu. Mae carfan o’r boblogaeth yn eu croesawu a’u cefnogi i setlo i mewn i fywyd yr ardal, ond mae carfan uwch eu cloch yn gwrthwynebu eu presenoldeb. Mae’n rhaid i’r Ditectif Jeff Evans gadw’r ddysgl yn wastad.
Pam dewis y pwnc hwn? ‘Fel mae fy narllenwyr yn gwybod,’ meddai John, ‘mi fydda i’n hoff o ddewis pwnc amserol ar gyfer fy nofelau – rhywbeth sy’n amlwg ac o’n cwmpas ni’n ddyddiol. Doedd hi ddim yn anodd i mi benderfynu ar thema y tro yma, ond mi wnes i feddwl yn galed am stori gredadwy sy’n delio gyda’r mater mewn dull sydd, yn fy marn i, yn sensitif a chredadwy. Ac wrth gwrs, mae ’na droad neu ddau ar hyd y ffordd er mwyn cadw’r darllenwyr ar flaenau eu traed.’
Yng nghanol y protestio ynglŷn â’r ceiswyr lloches, mae corff yn cael ei ddarganfod... ac mae un o hoff gymeriadau darllenwyr nofelau John yn gwneud ymddangosiad unwaith eto. ‘Tydi Nansi’r Nos, hysbysydd ffyddlon Jeff, ddim wedi newid llawer dros y blynyddoedd,’ eglura John, ‘ond unwaith eto, mae hi’n helpu Jeff i daclo problem sy’n prysur ddod yn broblem yng Nglan Morfa.’
Y broblem honno yw cyffuriau, ac un o themâu eraill Dan Warchae yw sut mae cyffuriau newydd yn llwyddo i gyrraedd Cymru wledig, a sut mae’r rhwydweithiau i’w rhannu yn mynd yn fwy a mwy dyfeisgar ac ymwthiol. Fel yr eglura John, ‘Mae’r byd ’ma’n newid, ac mae digwyddiadau yn ein hwynebu heddiw na fyddai neb wedi’u hystyried flynyddoedd yn ôl. Beth bynnag yw eich barn chi am y pynciau sy’n cael eu trafod, mae dwy ochr i bob dadl... ac weithiau, mae llawer iawn mwy na dwy.’
Bydd Dan Warchae yn cael ei lansio yn
Llyfrgell Porthaethwy
Nos Iau, Rhagfyr 3ydd am 7 y.h.
Bydd y gyfrol ar werth mewn siopau llyfrau ledled Cymru (£9.99), ar Ffolio.com ac ar wefan www.carreg.gwalch.cymru o 13 Tachwedd, 2026.
Broliant cefn y clawr:
Mae John yn feistr ar y nofel dditectif Gymraeg. Marlyn Samuel
Achos cythryblus arall i’r Ditectif Jeff Evans yn nhref arfordirol Glan Morfa.
Yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i letya ceiswyr lloches mewn hen wersyll yn perthyn i’r Fyddin ar gyrion Glan Morfa, mae rhai o’r trigolion lleol yn dechrau protestio. Wrth i’r tensiwn yn y gymuned gynyddu ceisia Ditectif Jeff Evans a gweddill plismyn Glan Morfa dawelu’r dyfroedd... ond yna caiff corff ei ddarganfod.
Pymthegfed nofel John Alwyn Griffiths, meistr y nofel dditectif Gymraeg.
Awdur
Un o Fangor yw John Alwyn Griffiths, ond mae bellach yn byw ym Môn. Bu’n heddwas hyd ddiwedd 1998, a chyn ymddeol roedd yn bennaeth ar Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Mae wedi ysgrifennu hunangofiant, Pleserau’r Plismon, a phedair ar ddeg o nofelau blaenorol.
Nodiadau i Olygyddion:
- Yn enedigol o Fangor, bu John yn heddwas drwy ei yrfa gan weithio ledled gogledd Cymru cyn ymddeol yn 1998 o fod yn bennaeth Adran Dwyll Heddlu Gogledd Cymru. Treuliodd gyfnodau yn gweithio mewn nifer o drefi: Pwllheli, Llangefni, Caergybi, Conwy a Dolgellau yn eu plith, a chyfuniad o’r trefi hynny yw Glan Morfa, y dref ddychmygol sy’n gartref i’r ditectif Jeff Evans.
- Ar ôl yr holl flynyddoedd yn ysgrifennu nofelau, mae John yn dal i allu cael syniadau am blotiau i’w nofelau. ‘Mae’n bwysig i mi greu stori sy’n cynnwys problemau cyfredol, yng Nghymru ac yn fyd-eang,’ medd. ‘Dwi’n cael fy syniadau oddi ar y newyddion ar y teledu a’r radio, y we a phapurau newydd. Gawn ni weld, wrth i mi feddwl am blot y nofel nesaf, a fydd yr ysbrydoliaeth yn dal i lifo!’
- Un peth sy’n nodedig am nofelau John yw eu bod teitl pob un ohonynt yn dechrau efo’r gair ‘Dan’. Ond er bod eu teitlau’n gyson, does dim yn debyg am y plotiau, sydd i gyd wedi’u hysbrydoli gan achosion y bu’r awdur yn ymwneud â nhw yn ystod ei yrfa a phynciau cyfredol sydd yn y newyddion.
- Bydd lansiad yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Porthaethwy ar Ragfyr 3ydd.
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â
Gwasg Carreg Gwalch: