Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Cwpwrdd Derw Dwynwen
Cwpwrdd Derw Dwynwen
Cwpwrdd Derw Dwynwen
Cofnod o daith deuluol a hanesyddol
Dwynwen Jones, Dyffryn Banw.
Siân James
Gwasg Carreg Gwalch, £9.99
Casgliad o lên gwerin a thrysorfa o ddiwylliant lleol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Bu agor a gweld cynnwys y ‘Cwpwrdd Derw’ yn allweddol wrth i Siân James fynd ati i roi’r gyfrol hon at ei gilydd. Cwpwrdd derw ei modryb – Anti Dwynwen – oedd yn gyfnither gyfan i dad Siân, ac un o’r eneidiau serendipaidd hynny a’i hysbrydolodd gydol ei bywyd. Roedd Dwynwen Jones yn gerddor, yr arbenigwr cerdd dant, yn llenor, ac yn warchodwr diwylliant a hanes, a fu’n gwbwl ganolog i ffyniant diwylliannol ardal Dyffryn Banw, gydol ei hoes.
Roedd y cwpwrdd yn storfa ryfeddol o gerddi, gosodiadau cerdd dant, cerddoriaeth a hanesion teulu a chymdeithasol – hwn oedd cist trysorau Dwynwen am bron i hanner canrif, yn cynnwys llawlyfrau a etifeddodd hithau gan aelodau hŷn y teulu. Yn y gyfrol hon mae Sian yn dethol cynnwys y cwpwrdd a’i gyflwyno’n benodau penodol inni. Meddai Siân: ‘Cefais gyfle ’nôl yn 2011 i gyflawni prosiect casglu caneuon gan rai o gymeriadau annwyl yr ardal hon. Roedd Dwynwen yn un o’r rhai a gyfrannodd mor hael i’r prosiect hwnnw, a meddyliais y bydde’n werthfawr gwyntyllu ymhellach ei chasgliadau hi.’
Mae’r gyfrol yn un bwysig iawn i ardal Dyffryn Banw, gan ei bod yn cofnodi hanes un o’i chymeriadau anwylaf, ac yn dogfennu hanesion difyr am gymeriadau a digwyddiadau yn y dyffryn, gyda chanu a cherddoriaeth yn ganolbwynt pwysig. Mae’n gasgliad gwerin o bwys cenedlaethol. Yng ngeiriau Siân, ‘Mor anodd ag ydi o i ni dderbyn ein marwoldeb ein hunain a’n caredigion, mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n cofnodi hanesion a straeon y genhedlaeth hŷn, yn enwedig. Y gwir amdani yw, mae’n hawdd iawn i’r pethe ’ma ddiflannu o dan ein trwynau, a’r golled i’n diwylliant oherwydd difaterwch y byd sydd ohoni, brofi’n un drasig iawn. Fy neges bersonol i i’r darllenydd yw hyn – cofnodwch hynny fedrwch chi o straeon eich teulu, a’ch ardal a’ch bröydd, cyn i’r pethau yma fynd yn angof. Mae stori fy modryb Dwynwen yn llawn cariad a difyrrwch, a hithau yn un o’r rhai prin hynny erbyn hyn oedd yn dyst i’r newidiadau enfawr a fu dros gyfnod yr 20fed ganrif.
Wrth fynd ati i lunio’r gyfrol teimlai Siân fod y dasg yn enfawr, ac roedd yn anodd ganddi feddwl sut y byddai’n gwneud cyfiawnder â’i modryb. Ond, mynd ati a wnaeth, ac wedi’r holl waith mae hi’n falch iawn o’r canlyniad. ‘Bu’n broses ddyrys ond breintiedig iawn a dweud y gwir, wrth i mi ymaflyd â’r mynydd o hen lyfrau nodiadau a phrintiedig oedd yng nghwpwrdd Dwynwen. Ond sôn am ddedwyddwch llwyr! A bu’r holl brofiad yn un am addysgodd ac a’m llonnodd hyd waelod fy mod.’
Yr awdur.
Siân yw un o gantorion cyfoes mwyaf blaenllaw Cymru ac un o’n prif arloeswyr ym myd cerddoriaeth traddodiadol. Cana’r delyn Geltaidd, mae’n bianydd o fri, ac mae’n gyfansoddwr. Mae ei dawn fel perfformwraig wedi mynd â hi i theatrau a gwyliau cerddorol ledled y byd, ac fe’i perchir fel un o’n prif lysgenhadon cerddorol. Erbyn hyn, rhyddhawyd deg albym o’i gwaith – casgliadau eclectig o ganeuon gwreiddiol a thraddodiadol, a gwmpasa’n emosiynau dyfnaf, o gariad a chwerthin i golled a’r byd ysbrydol.
Yn enedigol o bentref Llanerfyl yn yr hen Sir Drefaldwyn, bu Siân yn cymryd rhan mewn eisteddfodau lleol o oedran cynnar iawn. Dechreuodd ganu’r piano yn 6 oed, cyn dod o hyd i’w llais wrth y delyn yn 11 oed. Tra’n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion fe’i hysbrydolwyd gan ei hathrawes telyn, Frances Môn Jones i ddechrau arbrofi gyda threfniannau o ganeuon gwerin i’r llais a’r delyn. Aeth ymlaen i wyntyllu ei chariad at gyfansoddi wrth astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.
Mae hefyd yn adnabyddus am ei gwaith actio ar lwyfannau Cymru a theledu Cymraeg, gan gynnwys sioeau megis Enoc Huws a Llyfr Mawr y Plant; cyfresi megis Pengelli, Iechyd Da, Byw Celwydd; a’r ffilm Tylluan Wen. Bu’n arwain Parti Cut Lloi am gyfnod o ugain mlynedd – parti meibion a sefydlwyd i gystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod, 2003. Rhyddhawyd dau CD o’u gwaith hwythau ar label Recordiau Bos, sef Henffych Well, ac Y Dyn Bach Bach.
Mae ei hanturiaethau cerddorol diweddaraf yn cynnwys y grŵp Pedair, a’r ddeuawd biano Sonant.
Mae Cwpwrdd Derw Dwynwen ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a ffolio.cymru | Eich Siop Lyfrau Leol Ar-lein
Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â
Gwasg Carreg Gwalch:
Broliant cefn y clawr:
Roedd Dwynwen Jones, gynt o’r Parc, Llangadfan yn gymeriad cwbl unigryw ac yn un a fu’n allweddol i ffyniant diwylliannol ardal Dyffryn Banw ar hyd ei hoes. Roedd hi’n gerddor, yn arbenigwr cerdd dant, yn llenor ac yn warchodwr diwylliant a hanes heb ei hail. Roedd hi hefyd yn fodryb annwyl iawn i Siân James.
Roedd gan Dwynwen gwpwrdd derw arbennig yn llawn o hen lyfrau brau a phapurau rhydd, cerddoriaeth a hanesion teulu. Rhannodd ei gynnwys i gyd â Siân, a aeth ati i ddidoli’r deunydd a’i gyflwyno yn y gyfrol hon.
Y canlyniad yw casgliad o lên gwerin a thrysorfa o ddiwylliant lleol sydd o bwysigrwydd cenedlaethol.
Nodiadau i’r Golygydd
- Darluniwyd y llun ar y clawr gan yr artist lleol Eleri Mills, a dyluniwyd y clawr gan Eleri Owen o Wasg Carreg Gwalch.
- Darluniwyd y lluniau ar ddechrau bob pennod gan Elin Mair Roberts.
- Mae gyfrol yn cynnwys nifer o ffotograffau o gasgliad teuluol Siân James wedi eu cynnwys yn y gyfrol.
- Bydd lansiad y gyfrol yn Neuadd Llanerfyl, Tachwedd 20 am 7.30yh yng nghwmni Siân James, Parti Cut Lloi a mwy.