Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Canrif a mwy o’r Babell Lên


Canrif a mwy o’r Babell Lên


Ifor ap Glyn

Gwasg Carreg Gwalch, £9.99

Dyddiad Cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2026

Mae’n rhyfedd nad oes neb wedi meddwl ysgrifennu llyfr am y Babell Lên cyn hyn – wedi’r cyfan, (a dyfynnu o wefan yr Eisteddfod Genedlaethol):

‘Mae’n debyg mai Y Babell Lên yw’r adeilad enwocaf ar y Maes, ar ôl y Pafiliwn’. 

Ers y 1920au, mae’r Babell Lên wedi bod yn ganolfan brysur a phoblogaidd ar y Maes. Ond mae mae’n newid a datblygu drwy’r amser ac yn y gyfrol hon mae Ifor ap Glyn yn olrhain rhai o’r themâu sy’n ei gwneud yn rhan mor bwysig o’n diwylliant: y beirniadaethau, darlithoedd, gwahanol gartrefi’r Babell dros y blynyddoedd, y Babell a’r cyfryngau, cerddoriaeth/rhyddiaith/theatr ac ymryson yn y Babell, ehangu apêl y Babell – ac, wrth gwrs, ei dyfodol:

‘Ganwyd y llyfr hwn ym ‘mlwyddyn y pla – 2020,’ meddai Ifor. ‘I nodi canmlwyddiant y Babell Lên y flwyddyn honno, cafodd Cwmni Da eu comisiynu gan y BBC, i gynhyrchu rhaglen i’w darlledu ar S4C Canrif o’r Babell Lên. A’m braint innau oedd llywio’r rhaglen o’r sgript i’r sgrîn, yn y dyddiau rhyfedd hynny. Bu’n rhaid fod yn hynod ofalus wrth recordio, gan gadw pellter a diheintio’r meicroffôn cyn i’r person nesaf ei wisgo. Yna, yn hytrach nac eistedd gyda’r golygydd wrth siapio’r rhaglen, bu’n rhaid ffeirio nodiadau di-ddiwedd a siarad dros y ffôn ond daethon ni i ben â hi mewn da bryd.’

clawr Canrif a Mwy o'r Babell Lên

Darlledwyd y rhaglen ar nos Lun 3.8.2020, a chafodd dderbyniad digon gwresog, fel rhan o’r Eisteddfod Amgen y flwyddyn honno. Ond roedd Ifor yn ymwybodol fod mwy i hanes y Babell na’r hyn a lwyddwyd i’w gynnull ynghyd yn y rhaglen honno yn unig:

‘Yn un peth, roedd y rhaglen yn dibynnu’n drwm ar atgofion ein cyfranwyr, a rheini ddim yn ymestyn yn ôl fawr bellach na’r 1960au. Roedd gennym fynediad i archif ffilm ddigidol y BBC ond eto, prinhau yn sylweddol oedd y deunydd cyn y 1960au – ac roedd 40 mlynedd o hanes y Babell Lên cyn hynny.

Gyda’r llyfr hwn felly, dwi wedi ceisio rhoi blas o’r cyfnod cynnar hwnnw (a’r degawdau wedyn) drwy droi at archif papurau newydd Prifysgol Bangor, a’u casgliad o raglenni’r dydd o sawl eisteddfod – rhywbeth nad oedd yn bosib ei wneud yn ystod y cyfnod clo. Ac wrth gwrs, mae llyfr fel hwn yn cynnig cyfle i ddyfynnu’n helaethach o’r sylwadau craff a recordiwyd gan ein cyfranwyr yn ôl yn 2020. Mawr yw fy niolch i’r cyfranwyr i gyd felly; i’r BBC ac S4C am gomisiynu’r rhaglen, ac i Brifysgol Bangor am bob cymorth wedyn.’

Lansiad y gyfrol:

Bydd sesiwn i lansio’r gyfrol ar uned Llwyfan Llyfrau/Awen Teifi ar Faes Eisteddfod y Garreg Las – pnawn Iau am 1.00