Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Beth am gynnau tân


Beth am gynnau tân


Atgofion a cherddi

Ann Fychan

gol: Cyril Jones

Gwasg Carreg Gwalch, £8

Dyddiad Cyhoeddi: 27 Gorffennaf 2026

Nid cyfrol o farddoniaeth arferol yw hon. Roedd bywyd a gwaith Ann Fychan a’i rhan flaenllaw yng ngweithgarwch diwylliannol dyffrynnoedd Twymyn a Dyfi

a thu hwnt yn rhan annatod o’i gyrfa lenyddol. Mae egni’r tân oedd ynddi at ein pethau gorau i’w glywed yn ei cherddi a’i phenillion. Tân i ysgogi fflam mewn eraill

oedd ganddi a darnau a gyflwynwyd ar lafar yw cyfran helaeth o’i gwaith.

Trafodwyd y gwaith o gorlannu cynnyrch barddol Ann cyn iddi’n gadael ym mis Mehefin 2024. Fel cyfaill i Ann a Gwilym a’r teulu am dros hanner can mlynedd, gwaith chwerwfelys i Cyril Jones fu mynd ati i grynhoi’r cyfan yn ystod y flwyddyn a aeth heibio.

Gan fod ei barddoniaeth wedi’i llunio i gysylltu’n uniongyrchol â’i chynulleidfa, boed honno yn gynulleidfa leol neu gynulleidfa genedlaethol talyrnau ar y radio a’r teledu, mae’n waith hygyrch y gellir ymateb iddo ar y pryd. Eto, mae’n haeddu mwy nag un darlleniad. Awen delynegol oedd gan Ann ac mae haenau

o brofiadau mewn rhai llinellau ar yr wyneb yn syml.

Mae’n gyfuniad o gyfrol: ceir ynddi ddarnau rhyddiaith hunangofiannol yn ogystal â darnau barddoniaeth, geiriau caneuon a lluniau. Daw ei theitl – a ddewiswyd gan Gwilym, Owain a Bedwyr - o eiriau’i chân  Tân yn Llŷn – geiriau a anfarwolwyd gan y grŵp gwerin Plethyn.

Roedd Ann, ynghyd â Gwilym, yn aelod o dîm Talwrn Bro Ddyfi am gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain a chynhwysir nifer o’r cerddi a gyfansoddodd yn ystod y cyfnod hwnnw yn y gyfrol. Roedd ymhlith y garfan gyntaf o ferched i hawlio’u lle yn rhengoedd ceiliogaidd Talwrn y Beirdd. Enillodd tîm Bro Ddyfi fri cenedlaethol ar sawl achlysur ond pwysig cofio i Ann lunio cerddi a chaneuon ar gais ei hardalwyr - ac ar eu cyfer hefyd. Cewch flas o’r cyfan yn y gyfrol ddifyr ac amrywiol hon.

Lansiad y gyfrol:

Bydd noson arbennig i lansio’r gyfrol i gofio am Ann yn neuadd Glan Twymyn, 27 Gorffennaf