Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Barti a Bwystfil y Môr
Barti a Bwystfil y Môr
Gill Lewis
Addasiad Elen Williams
£7.99 , clawr meddal
Crynodeb: Mae mam Tia wedi cael swydd newydd fel milfeddyg ar Ynys Porth yr Wylan ac mae’r ddwy yn edrych ymlaen i ddod i adnabod eu cartref newydd. Ond does ddim amser i hynny – mae gormod o anifeiliaid angen eu help! A phan gaiff ei mam ei galw i helpu buwch sy’n sâl ar ynys gyfagos – mae’r gwaith o edrych ar ôl yr anifeiliaid i gyd yn nwylo Tia. A beth yw’r creadur rhyfedd sy’n cael ei olchi i’r traeth? Darllenwch i glywed hanes cyffrous Tia!
Dyma’r gyntaf o gyfres o nofelau gan Gill Lewis yn adrodd hanes ‘Milfeddyg yr Ynys’.
“Mae cariad Gill Lewis at fyd natur yn serennu drwy’r nofel, fel gyda’i holl waith sgwennu, ac mae’r stori dyner, dwymgalon hon i’r dim i’w chyflwyno i ddarllenwyr ifanc sy’n hoff o anifeiliaid” – Books for Keeps
Cyn-filfeddyg yw Gill Lewis sy’n byw wrth ymul Trewyddel, ychydig filltiroedd o Aberteifi. Mae hi’n angerddol am gynnal a gwarchod bywyd gwyllt Cymru; yn enwedig yn Sir Benfro. Yr un yw’r neges yn ei nofelau; fod angen i bobl barchu’r bywyd gwyllt o’u cwmpas a sicrhau nad yw twristiaeth yn tarfu ar yr adar a’r anifeiliaid gwyllt sy’n byw yma.
Barrington Stoke sydd wedi cyhoeddi’r gyfres wreiddiol, a bydd yr ail yn y gyfres ‘Antur ym Morth y Morlo’ yn cael ei chyhoeddi yn yr Hydref. Mae’r llyfrau yn cael eu treialu gan blant a phobl ifanc.
Nofelau perffaith i ddarllenwyr 9+ sy’n caru anifeiliaid ac antur.
Os am drefnu cyfweliad neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch drwy e-bost: marchnata@carreg-gwalch.cymru