Hafan > Y Mudiad > Y Wawr > Cyhoeddiadau Newydd > Arwyr Argyfwng! A'r Injan Dan


Arwyr Argyfwng! A'r Injan Dan


Stori gan Craig Russell a Caryl Parry Jones. Gwasg Carreg Gwalch, £5.99

Siop anifeiliaid anwes ar dân! Mae angen cymorth ar frys!

Pwy’n well i ymateb i’r sefyllfa na chriw yr Arwyr Argyfwng! O dan arweiniad Med, llygoden yr injan dân, mae’r criw yn brysio i helpu Mr Anwyl i achub ei anifeiliaid bach o’r fflamau yn y siop. Rhaid bod yn ofalus, neb i fynd i banig a phawb i wrando ar Med. Ond mae problem ychwanegol yn codi wrth i Morus weld Twts y tarantiwla anferth, a gwrthod mynd yn agos ato. Ond, o dipyn i beth, gyda chymorth ei ffrindiau, llwydda i oresgyn ei ofn a dangos ei ddewrder er mwyn achub y creadur wyth coes a’i gario i’r awyr iach. Mae pawb yn ddiogel ar y diwedd diolch byth, a’r llygod wedi dysgu gwersi pwysig – rhaid bod yn ffrindiau gyda phawb, a’u derbyn am yr hyn ydynt. Mae’n bosib dod dros eich ofnau gyda chefnogaeth, dim ond i chi fod yn barod i ymdrechu.

Dyma’r drydedd stori am yr Arwyr Argyfwng. Moli yw pennaeth yr Arwyr Argyfwng, ac mae hi a’i chriw ffrindiau: Morus, Miri, Med, Mabli, Moci a Myfi, yn barod i ymateb i unrhyw ddigwyddiad. Mae ganddynt i gyd nodweddion arbennig a thalent unigryw sy’n eu gwneud yn griw arbennig iawn

Mae Arwyr Argyfwng a’r Injan Dân ar gael yn awr ym mhob siop lyfrau Cymraeg, drwy www.carreg-gwalch.cymru a ffolio.cymru | Eich Siop Lyfrau Leol Ar-lein

Am fwy o fanylion, i gyfweld â’r awdur neu am gopi adolygu, cysylltwch â Gwasg Carreg Gwalch: llanrwst@carreg-gwalch.cymru

Clawr Arwyr Argyfwng a'r Injan Dân

Broliant cefn y clawr:

Heddiw, mae'r Arwyr Argyfwng wrthi'n brysur yn cadw'r dref yn lân a thaclus.

Ond daw galwad frys gan Mister Anwyl yn dweud bod tân yn ei siop anifeiliaid anwes. Felly i ffwrdd â Med, llygoden yr injan dân, a'i griw.

Wrth geisio achub yr anifeiliaid o’r siop, mae rhywbeth neu rywun yn dychryn Morus. Rhaid i’r Arwyr weithio gyda’i gilydd er mwyn cadw pawb yn ddiogel.

Hon yw’r drydedd stori yng nghyfres gyffrous yr Arwyr Argyfwng, gan Craig Russell a Caryl Parry Jones.

Nodiadau i’r Golygydd

  • Stori gan Craig Russell a Caryl Parry Jones
  • Arlunydd plant o Gymru yw Jacob Fell. Mae wedi gweithio ar gyfresi teledu a ffilm, ond ei waith amlycaf yng Nghymru yw’r cymeriad Sali Mali.
  • Dyma’r drydedd stori yn y gyfres Arwyr Argyfwng – storïau i blant o dan 7 oed.