Hafan > Eich Rhanbarth > Môn > Y Gors Goch
Y Gors Goch
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Y Gors Goch. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y 3ydd nos Iau o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Ardal Llanbedrgoch
Amdanom
Mae Clwb Gwawr Y Gors Goch wedi bodoli ers dros 20 mlynedd, ac yn dal i fynd o nerth i nerth. Maent wedi mwynhau amrywiaeth o weithgareddau dros y blynyddoedd, o wibdaith i IKEA i noson gemwaith!
Mae’r aelodau i gyd yn elwa o’u haelodaeth trwy gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Maent yn lwcus iawn i gael cyfarfod yn Nhŷ Capel Glasinfryn, Llanbedrgoch pob mis.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.