Hafan > Eich Rhanbarth > Môn > Talwrn
Talwrn
Croeso
Croeso i gangen Merched y Wawr Y Talwrn. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein cangen ni. Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Amdanom
Merched y Wawr, Talwrn 2009 -2015
Rydym yn dal i gyfarfod i fwynhau pob math o weithgareddau a thripiau. Bu sawl tro ar fyd ers 2009 ac fe gollwyd nifer o aelodau. Symudodd eraill ond wrth lwc daeth aelodau newydd atom i fwynhau’r gwmnïaeth. Mae’n dwy aelod hynaf dros 90 ond mae’r ddwy yn heini ac yn ifanc a hwyliog iawn eu hysbryd.
Rwy’n siŵr mai ni yw’r unig gangen yng Nghymru i fedru dweud bod dwy o’n haelodau wedi ennill Gwobr Tir na n-Og – Mair Wynn Hughes wedi ei hennill 4 gwaith i gyd a Bethan Wyn Jones wedi ei hennill am y tro cyntaf llynedd. Mae Mair Wynn Hughes wedi ennill Tlws Mary Vaughan Jones hefyd. Cawsom noson hyfryd ym mis Chwefror yng nghwmni Mair pan fu’n bwrw golwg dros 50 mlynedd o sgrifennu ar gyfer plant a phobl ifanc – 99 o gyfrolau i gyd – hyd yn hyn!
Rhaglen 22 - 23
Medi 21 - Olrhain Teulu - Ann Roberts
Hydref 19 - Teulu'r Talwen - Gwerfyl Jones
Tachwedd 16 - Glynllifon - John Dilwyn Williams
Rhagfyr 8 - Cinio Nadolig
Ionawr 18 - Pnawn yng ngofal Enfys Hughes
Chwefror 15 - Byw'n Iach - Dr Ieuan Jones
Mawrth 15 - Masnach Deg - Jenny Pye
Ebrill 19 - Pnawn yng ngofal Ann Williams
Mai 17 - Pnawn yng ngfoal Jean Parry
Mehefin - Te prynhawn
Digwyddiadau
Man Cyfarfod: Neuadd y Pentref
Pryd: 2.00 3ydd Dydd Mercher y mis
Swyddogion
Cysylltydd
Enw: Ann Jones
Cyfeiriad: Wern, Talwrn, Llangefni, Ynys Môn LL77 7TF
E-bost: aejwern@yahoo.co.uk
Ffôn: 01248 723 922