Hafan > Eich Rhanbarth > Môn > Clwb Gwawr Llanddaniel
Clwb Gwawr Llanddaniel
Croeso
Croeso i Glwb Gwawr Llanddaniel. Yma fe welwch wybodaeth am be sydd yn mynd ymlaen yn ein clwb ni. Cynhelir y clwb ar y 3ydd nos Fercher o bob mis os na ddangosir yn wahanol. Croeso cynnes i bawb!
Os ydych angen unrhyw wybodaeth ychwanegol yna cysylltwch gyda ni.
Amdanom
Ar y 16eg o fis Hydref 2019 cafwyd cyfarfod cychwynnol i sefydlu Clwb Gwawr yn ardal Llanddanielfab. Roedd yn noson lwyddiannus gyda thua 20 o ferched wedi mynychu. Penderfynwyd enwi’r clwb “Clwb Gwawr Llanddaniel”.
Mae’r merched wedi trefnu rhaglenni amrywiol gyda nosweithiau i apelio at ddant pawb, o noson blasu ‘zeroholic’ i noson cynllunio Cartref!
Maent i gyd yn elwa o gyfarfod pobl newydd, cymryd rhan mewn gweithgareddau gwahanol, codi arian at achosion da a dysgu sgiliau newydd. Y peth pwysicaf i bawb ydy cael lot o hwyl.
Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno – cysylltwch am fanylion.
Rhaglen 26 - 27
Medi 23 - Bingo
Hydref 21 - Kristoffer Hughes
Tachwedd 18 - Tips Colur a Gwallt
Tachwedd 25 - Swper Nadolig
Rhagfyr 9 - Torch Nadolig
Ionawr 20 - Troedio Adweitheg
Chwefror 17 - Tanya Whitebits
Mawrth 17 - Noson Celtaidd
Ebrill 21 - Cwis
Mai 19 - Crefft
Mehefin 16 - Gweithgaredd Awyr Agored
Gorffennaf 10 - Trip Diwedd Blwyddyn
Digwyddiadau
Man Cyfarfod: Yr Efail, Llanddaniel
Pryd: 7.30 3ydd Nos Fercher y mis








