Cangen Pwllheli - Lena Pritchard Cymorth Cristnogol
Dymuna aelodau Merched y Wawr longyfarch Lena Pritchard aelod yng nghangen Pwllheli ar dderbyn tystysgrif gwasanaeth oes gan Gymorth Cristnogol Pwllheli.
Mae Lena Pritchard, cyn drefnydd gyda Cymorth Cristnogol Pwllheli, wedi bod yn rhan o nifer fawr o ddigwyddiadau dros y blynyddoedd sydd wedi llwyddo i godi dros £137,000 ar gyfer gwaith Cymorth Cristnogol ar draws y byd.
Wrth iddi gamu i lawr fel Trefnydd yn ddiweddar, cyflwynwyd Lena gyda tystysgrif gwasanaeth oes mewn te sypreis yn Tyddyn Sachau.
Sefydlwyd Cymorth Cristnogol yn 1945 ac yn ystod y 50au hwyr daeth Wythnos Cymorth Cristnogol i fodolaeth. Meddai Llinos Roberts, Swyddog Eglwysi a Codi Arian Cymorth Cristnogol, “mae’r gefnogaeth i’r elusen wedi ei sefydlu ym Mhwllheli a’r pentrefi cyfagos ers y cychwyn ac yn parhau’n gryf wrth i gefnogwyr gyfrannu, gweddio a gweithredu dros ein brodyr a’n chwiorydd ar draws y byd. Roedd yn bleser cael cydnabod hyn drwy gyflwyno’r tystysgrif i Lena”.
“Heb y gefnogaeth gan eglwysi a phwyllgorau Cymorth Cristnogol mewn cymunedau, fyddai dim o waith partneriaid Cymorth Cristnogol yn bosib.
“Mae’r wobr hon yn adlewyrchu ymdrechion y tîm cyfan o wirfoddolwyr o bob enwad, cymuned ac ysgol dros y blynyddoedd”.
Eleni mae Cymorth Cristnogol yn nodi 80 mlynedd o weithio gyda partneriaid mewn cymunedau bregus ar draws y byd yn darparu cymorth mewn argyfwng ynghyd a sefydlu prosiectau datblygu hir-dymor.
Meddai Lena “braint a phleser oedd y gwaith trefnu ar hyd y blynyddoedd, gwaith nes i wirioneddol ei fwynhau” gan ychwanegu “mi wnes i fwynhau bod yn Drefnydd ac rwyf yn derbyn yr anrhydedd yma ar ran pawb sydd wedi rhoi eu ffydd ar waith ac wedi gwneud gwahaniaeth mawr dros y byd”.
Cyflwynwyd y dystysgrif i Lena gan Llinos, Parchg Bryn Williams, Daphne Jones (Trysorydd) a Valerie Williams gan ddymuno’n dda i Valerie ar ei chyfnod newydd fel Trefnydd ardal Pwllheli.
