Home > Eich Rhanbarth > Colwyn > Llanelwy > Cangen Llanelwy Gorffennaf ac Ebrill 2025
Cangen Llanelwy Gorffennaf ac Ebrill 2025
LLUNIAU O WEITHGAREDDAU CANGEN LLANELWY
Ym mis Ebrill trefnodd cangen Llanelwy gyngerdd llwyddiannus iawn yng nghwmni aelodau o Aelwyd yr Ynys, Môn. Rhannwyd yr elw rhwng Ymchwil Canser Cymru a Gofal Dydd y Waen sy’n cynnig y cyfle ddwywaith yr wythnos i rai o’r ardal sy’n oedrannus a methedig i ddod i dreulio’r diwrnod yn cymdeithasu a chael eu bwydo. Cyflwynodd rhai o’r aelodau sieciau o £400 yr un i weithwyr Ymchwil Canser Cymru yn eu siop yn Llandudno ac i Beth Roberts ar ran Gofal Dydd.
Ym mis Gorffennaf bu aelodau cangen Llanelwy ar ymweliad ag ardal Rhuthun gan ymweld â’r tŷ trefol ffrâm bren hynaf yng Nghymru, sef Nantclwyd y Dre, sy’n dyddio o 1435-6, cyn mwynhau tê prynhawn blasus yn Llanbenwch.


