Home > Eich Rhanbarth > Caerfyrddin > Clwb Gwawr Llanfynydd > Clwb Gwawr Llanfynydd yn dathlu Gŵyl Dewi
Clwb Gwawr Llanfynydd yn dathlu Gŵyl Dewi
Dyma luniau o Glwb Gwawr Llanfynydd a wnaeth wahodd Clwb Gwawr Criw Cothi i ymuno i ddathlu Gŵyl Dewi. Diolch i deulu Blakeman, Tafarn New Cross, am y cawl a’r pwdinau blasus iawn. Y siaradwr gwadd oedd Hefin Jones a fu’n ein tywys ar daith ddiddorol o amgylch ei filltir sgwâr. Cafwyd noson bleserus iawn yng nghwmni ein gilydd.



