Hafan > Prosiectau > Prosiectau'r Llywydd > Newyddion Prosiectau’r Llywydd > Prosiect y Llywydd Bethan Picton Davies 2025 - 2027


Prosiect y Llywydd Bethan Picton Davies 2025 - 2027


Prosiect y Llywydd - Bethan Picton-Davies - 2025-2027

Dyma ddiweddariad pwysig ar sut mae trosglwyddo arian i elusen “Ymchwil Canser Cymru

Yn ein Pwyllgor Rhyngranbarthol ar Hydref y 18fed fe wnaeth Tegwen gadarnhau ei bod wedi cysylltu gyda’r Comisiwn Elusennau a Phrif Swyddog Cyllid Ymchwil Canser Cymru.  Mae Ymchwil Canser Cymru wedi bodloni fod yr arian a godir gan Merched y Wawr yn mynd i gyllideb cyfyngedig (sef Restricted Fund) ac fe fydd yr arian a godir yn cael ei wario ar ymchwil iechyd merched a canser y fron.  

Cyllid – Mae hi bellach yn bosibl i ganghennau/clybiau/rhanbarthau fancio unrhyw arian a gesglir at  Elusen Ymchwil Canser Cymru  yng ngyfrif eich cangen/clwb neu ranbarth  (neu eu cadw fel arian parod) ond bydd rhaid i’r arian gael ei drosglwyddo i’r Swyddfa yn Aberystwyth trwy BACS neu siec neu fel arian parod. Mae cyfrif arbennig (restricted fund) wedi cael ei sefydlu a fydd yn cael ei ddefnyddio yn benodol i ymchwil Canser Merched a Cancr y Fron. Bydd hyn yn hwyluso pethau i bawb. Dylid gwneud sieciau yn dyladwy i ‘Ymchwil Canser Cymru’. Bydd pob taliad yn cael ei gofnodi ar daenlen yn y swyddfa gan Meinir Chambers, ac yn cael ei fancio trwy gyfrif cyfyngedig sy’n arbennig i gasgliad Llywydd Merched y Wawr.

Os hoffech gysylltu gyda Meinir Chambers – cyllid@merchedywawr.cymru

Mae pob rhodd, pob digwyddiad, a phob eiliad o’ch amser yn cyfrannu’n uniongyrchol at wella bywydau. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nad yw neb yn wynebu canser a chanser y fron ar eu pen eu hunain.