Hafan > Prosiectau > Menywod yn y Gweithle - Dur a Môr > Cefndir y Prosiect
Cefndir y Prosiect
Menywod yn y Gweithle DUR a MÔR
Eisteddfod Dur a Môr yw teitl swyddogol Eisteddfod yr Urdd 2025 ym Mharc Margam Port Talbot a dyma pam y penderfynodd Rhanbarth Gorllewin Morgannwg o Ferched y Wawr baratoi arddangosfa yn darlunio bywydau menywod yn gweithio yn y diwydiant dur a’r diwydiant morol.
Bydd gennym chwech o luniau poster mawr trawiadol yn crisialu’r thema hon.
Menywod yng ngwaith tun Grovesend, Gorseinon 1936
Roedd menywod yn gwneud gwaith trwm yn agor y platiau yn y gweithfeydd tun niferus yng Ngorllewin Morgannwg yn negawdau cyntaf yr ugeinfed ganrif. Sylwch ar eu menig trwchus a’u bratiau sach. Byddai ganddyn nhw gyllyll mawr peryglus i agor y platiau ac roedd damweiniau cyson wrth eu defnyddio. Meddai un weithwraig, ‘ro’n i’n rhy flinedig i gerdded adre oherwydd yr holl chwys ro’n i wedi ei golli.’ Dim ond chwe swllt yr wythnos oedd y tâl.
Menywod ar y peiriannau mawr, Ffatri Metal Box, Castell-nedd 1950au
Bu ffatri Metal Box, Castell-nedd yn cyflogi trigolion yr ardal am dros 70 mlynedd; yn eu plith llawer o fenywod yn gweithio ar y peiriannau mawr ac yn gwneud tuniau a’u pacio. Dwedodd un weithwraig – Mair Matthewson o Gellifedw, Abertawe (gynt o gangen Lon-las) bod disgwyl iddi bacio 750 o dopiau tun y funud. Roedd bywyd cymdeithasol da yn y ffatri ac roedd hi’n aelod o’r band Jazz. Doedd hi ddim yn hapus pan rwystrwyd y menywod rhag gweithio ar y shifft nos – daeth hi’n swyddog undeb yno