Hafan > Prosiectau > Gwlad Newydd y Merched > Eich hanes chi - Dr Elin Jones


Eich hanes chi - Dr Elin Jones


Erthygl a ysgrifennwyd gan Dr Elin Jones a gyhoeddwyd ym mhapur bro Tafod Elai Gwanwyn 2024.

Rhan o brosiect Merched y Wawr y De-ddwyrain Gwlad Newydd y Merched i Eisteddfod Rhondda Cynon Taf 2024.

Ysgrifennu eich hanes CHI?

Does dim dwywaith taw un o ryfeddodau'r ganrif ddiwethaf yng Nghymru yw cynnydd rhyfeddol addysg gyfrwng Cymraeg yn ein cymoedd ni. Yn yr ardal hon, ganrif yn ôl, iaith hen bobl oedd y Gymraeg. Prin iawn oedd y rhieni fyddai'n trosglwyddo'r iaith i'w plant, a'r disgwyl oedd y byddai'r iaith yn marw gyda'r hen do. A marw wnaeth tafodiaith y cymoedd, y Wenhwyseg honno sydd i'w chlywed yn ein henwau lleoedd - er nid ar ein strydoedd bellach.

Ond mae'r Gymraeg yn fwy na'i thafodieithoedd, er mor bert yw'r rheiny, ac fe ddaeth yr iaith yn ôl i'n bro ar ffurf newydd, sef y Rhydfeleneg, iaith yr ysgolion Cymraeg arloesol hynny a sefydlwyd yn ystod y 1950au a'r 1960au. Nid ar chwarae bach oedd sefydlu'r ysgolion hynny: roedd gofyn llythyru, ymgyrchu, deisebu, dadlau, protestio, darbwyllo cynghorwyr lleol a swyddogion addysg fel ei gilydd, delio gyda gwrthwynebiadau chwyrn, a'r rhagfarn ryfeddaf weithiau hefyd.

A dyna ni: roedd cannoedd os nid miloedd o bobl cyffredin yn barod i ymdrechu heb laesu dwylo, ac mae ffrwyth eu hymdrechion i'w weld - a'i glywed - o'n cwmpas bob dydd. Hyfryd yw darllen am lwyddiannau ein hysgolion ym mhob rhifyn o'r papur hwn! Ac mae'n bur debyg eich bod chi, ei ddarllenwyr , yn rhan o hanes rhyfeddol addysg Gymraeg yn y cymoedd - yn ddisgybl, neu'n rhiant neu'n un o'r athrawon hynny fu'n cyflawni gwyrthiau mewn ystafelloedd llwm. Bydd rhai ohonoch efallai yn cofio stori Megan Thomas, a ymddangosodd yn y papur hwn y llynedd. Disgrifiodd Megan ymdrechion glew ei mamgu, Eirlys Thomas, pan gychwynodd Ysgol Gymraeg y Gilfach mewn un ystafell gyda naw plentyn bach, heb unrhyw adnoddau ond y rhai y byddai'n dod gyda hi o'r tŷ.

Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ymweld â Rhondda Cynon Taf eleni, a bwriad Merched y Wawr y rhanbarth hon yw dathlu hanes cyfrwng Cymraeg yn y cymoedd hynny. Byddwn yn chwilio i hanes sefydlu a datblygu'r ysgolion, yn dathlu rhai o'r arloeswyr, ac yn dathlu hefyd rhai o'r menywod hynny gafodd eu haddysg yn yr ysgolion Cymraeg ac sydd wedi mynd ymlaen i wneud cyfraniadau gwerthfawr i Gymru.

Ac ie, cymoedd y Rhondda, Cynon a Thaf fydd bro'r Eisteddfod, nid ein cymoedd ni. Ond tybed a oes rhai o ddisgyblion cynnar Rhydfelen yn darllen y papur hwn? Neu rywrai sydd wedi symud i'r ardal hon ar ôl derbyn eu haddysg yn un o ysgolion Cymraeg RCT? Ydy eich hanes personol chi yn rhan o hanes dadeni'r Gymraeg ym mro'r Eisteddfod eleni?

Gobaith Merched y Wawr yw darganfod hanes unigolion a gyfrannodd i ddatblygiad yr ysgolion Cymraeg, hanes sydd mewn perygl o gael ei anghofio bellach yng ngoleuni llachar llwyddiant. Trist yw meddwl y gallai rhai o gewri'r degawdau cyntaf, y blynyddodd anodd ond allweddol hynny sy'n sylfaen i'r cyfan, fynd dros gof yn y ganrif hon. Felly fe fydd dau weithdy'n cael eu cynnal ym Mhontypridd ar Chwefor 17eg er mwyn cynorthwyo aelodau Merched y Wawr i ddatblygu eu sgiliau ymchwilio i'w hanes eu hun.

Mae un o aelodau Merched y Wawr Cwm Rhymni eisoes wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r cynllun trwy gyflwyno i'r pwyllgor trefnu casgliad o'r llyfrynnau a ddefnyddiwyd yng nghymanfaoedd gwerin ysgolion Cymraeg y Rhondda yn y 1960au. Oni bai amdani hi, fe fyddai'r cymanfaoedd hyn wedi eu hanghofio'n llwyr, ond bellach mae gennym dystiolaeth bendant iddynt. Y cam nesaf nawr yw casglu atgofion unigolion amdanynt.

Felly os hoffech wybod mwy, neu gyfrannu eich hanes chi i'r pair hanesyddol fydd yn berwi ym Mhontypridd ar Chwefror 17, cysylltwch â Jen Dafis, swyddog rhanbarth Merched y Wawr, ar 07971523249 neu jen@merchedywawr.cymru