Hafan > Prosiectau > Gwlad Newydd y Merched > Cefndir y Prosiect
Cefndir y Prosiect
Gwlad Newydd Y Merched
Prosiect Merched y Wawr y De-ddwyrain a De Powys yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf.
Ers 1980 mae mudiad Merched y Wawr wedi bod a stondin y yr Eisteddfod Genedlaethol. Gyda’r eisteddfod yn teithio o amgylch Cymru mae’r stondin wedi dod yn hafan ar gyfer codi sylw ac ymwybyddiaeth ein haelodau a’r cyhoedd o’r rhanbarth lle mae’n cael ei chynnal. Eleni, Rhondda Cynon Tâf sydd â’r amlygrwydd. Yn ôl ym mis Medi 2022 cafwyd trafodaeth yn ein canghennau lleol, Tonysguboriau a Phontypridd, am beth ddylem ffocysu arno. Gan fod yr eisteddfod yn cael ei chynnal yn yr ardal lle gyfansoddwyd ein hanthem genedlaethol penderfynwyd rhoi tro newydd ar y teitl a dilyn y syniad a gyflwynwyd gan Helen Prosser (aelod o gangen Tonysguboriau a hefyd Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith) sef ‘Gwlad Newydd y Merched’.
Llifodd y syniadau ac roedd yn amlwg fod angen nodau clir o'r hyn yr oeddem am ei gyflawni yn yr amser byr oedd ar gael cyn dyddiad yr Eisteddfod. Sefydlwyd gweithgor penderfynwyd ar ganolbwyntio ar ddatblygiad ysgolion Cymraeg yn y sir. Arweiniodd trafodaethau pellach at gytuno ar yr hyn y dylai ein nodau fod, sef dathlu a chofnodi cyfraniad Addysg Gymraeg yn RhCT; rhoi cydnabyddiaeth i fenywod sy wedi bod yn arloesol yn sefydlu addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf a’r rhai sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig ar ôl derbyn addysg Gymraeg; creu arddangosfa a chyflwyniad i Eisteddfod RhCT a gweithio mewn partneriaeth gydag Ysgolion Cymraeg a Menter Iaith yn RhCT. Llwyddwyd cael grant Cronfa Gymunedol y Loteri sydd wedi caniatáu ni gynnal tri gweithdy i’n aelodau, trefnu sesiynau hwiangerddi a chaneuon gwerin i blant ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg RhCT ac ymweliadau â disgyblion ysgolion uwchradd Cymraeg y sir gan ferched amlwg yn eu meysydd sydd wedi derbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg.
Trefnwyd gweithdai i ddatblygu sgiliau ar gyfer casglu a chyflwyno gwybodaeth y merched fu’n ddylanwadol yn sefydlu addysg Gymraeg yn y sir gan gynnwys sut i baratoi gwybodaeth a’i gyflwyno ar faes yr eisteddfod trwy godau QR. Fel rhan o’r gwaith ymchwil a wnaethpwyd darganfuwyd detholiadau o ganeuon gwerin a gafodd eu defnyddio mewn cymanfaoedd gwerin yn ystod y ganrif ddiwethaf ac fe fydd Can y Cymoedd ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Merched 7fed. Gydag arweiniad Becky Davies fe fydd arddangosfa unigryw wedi’i greu ar gyfer stondin MyW sy’n cydnabod nifer o’r menywod sy’n allweddol yn y byd addysg Gymraeg yn y sir.
Mae rhaglen amrywiol a ddiddorol wedi ei drefnu ar gyfer wythnos yr eisteddfod.
|
Lleoliad |
|
|
|
Dydd Sadwrn 3ydd am 10.30 |
Uned Merched |
Agor yr Uned |
Cyflwyniad i’r arddangosfa |
|
Dydd Sul 4ydd am 5.30 |
Maes D |
Sesiwn Blasu |
Cyfle i flasu cynnyrch lleol gyda Nerys Howell. Marlow House The Welsh Cheese Company Siop Fferm Cwm Penderyn |
Os hoffech gael gwybodaeth am gynhyrchwyr a dosbarthwyr bwydydd yn Rhondda Cynon Taf, dyma'r lle i chi. Ceir cyfle i glywed cyflwyniadau am gefndir y bwydydd hynny ynghyd â chyfle i'w blasu! |
Dydd Llun 5ed 1.30 |
Pabell Cymdeithasau |
Prosiect Gwlad Newydd y Merched |
Cadeirio Heulwen Jones Dr Elin Jones Marged Thomas Becky Davies Bethan Nia |
Cyfle i glywed am brosiect Merched y Wawr y De-ddwyrain a De Powys, Gwlad Newydd y Merched. Dymuniad yr aelodau oedd dathlu a chydnabod cyfraniad menywod i sefydlu a llwyddiannau addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Sonnir am y gweithdai i ddatblygu ein sgiliau, ymweliadau ac ysgolion Uwchradd a Cynradd yr ardal gyda gweithdai gwerin a siaradwyr nodedig. Dangosir mor bwysig yw i fenywod ddathlu a chofnodi eu hanes. Llwyddwyd i wneud hyn gyda grant wrth y Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
|
d. Mawrth 6ed 11.00 |
Maes D |
Dadeni’r Gymraeg |
Cadeirio Branwen Cennard Christine James Helen Prosser Rhuanedd Richards Shelley Rees |
Addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Sgwrs rhwng menywod sy wedi derbyn addysg Gymraeg a rhai sy wedi dysgu Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol . Braf fydd clywed stori, Christine James, Helen Prosser, Shelley Rees gyda Branwen Cennard yn y gadair. Mae yn rhan o broject Gwlad Newydd y Merched.
|
d. Mercher 7fed 1.30 |
Tŷ Gwerin |
Can y Cymoedd |
Cyflwyno Sian Griffiths Menna Thomas Arweinydd Huw M a’r band Bethan Nia telynores Parti Canu Ysgol Evan James Atgofion siaradwyr Nia Parsons, Rhoswen Deiniol ag Eleri Bines. |
Cyfle unigryw i glywed a chyd ganu rhai o'r caneuon gwerin a glywyd mewn Cymanfaoedd Gwerin a drefnwyd gan Undeb Cymanfaoedd Canu Alawon Gwerin Cymru ym Morgannwg rhwng 20au a 60au'r ganrif ddiwethaf. Mae'n rhan o brosiect 'Gwlad Newydd y Merched' sy'n nodi a dathlu cyfraniad menywod, a fu, ac y sydd Heddiw yn hyrwyddo'r Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf a thu hwnt. |
d. Iau 8fed 10.30 |
Pabell Cymdeithasau |
Cymraeg yn y Dosbarth |
Margarette Hughes Margaret Francis Anne Hughes Anna Jones |
Cawn glywed o lygaid y ffynnon hanes ac anturiaethau addysg Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf. Sut beth yw bod mewn Ysgol Gymraeg yn Rhondda Cynon Taf? A fuodd yna ddiffyg darpariaeth addysg Gymraeg yn yr ardal? Beth wnaeth rhieni i sicrhau fod yna Gymraeg yn y dosbarth? Cawn gyfle i glywed lleisiau'r menywod sydd wedi cael profiadau amrywiol, heriol a chyfoethog wrth ymwneud ac addysg Gymraeg. Mae hyn yn rhan o brosiect Merched y Wawr y De-ddwyrain a De Powys, Gwlad Newydd y Merched gan gydnabod grant wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. |
d. Sadwrn 10fed 4.00 |
Uned MyW |
Tynnu Raffl |
|
|
Mi fydd croeso cynnes i bawb am ddisgled a sgwrs yn uned Merched y Wawr yn Ynys Angharad a chyfle i ddod i wybod mwy am ferched nodedig Rhondda Cynon Taf.
Felly edrychwn ymlaen at eich gael eich cwmni ym Mhontypridd i ddathlu Gwlad Newydd Y Merched.
Os ydych sgwrs ymhellach neu fwy o wybodaeth cysylltwch a Jên Dafis jen@merchedywawr.cymru.