Hafan > Newyddion > Trip Haf 2024 Penrhosgarnedd


Trip Haf 2024 Penrhosgarnedd


Daeth yr haul allan o ddifri i groesawu Merched y Wawr Penrhosgarnedd ar eu trip haf i Nant Gwrtheyrn. Cawsant gyfle i ymweld â rhai o’r bythynnod a’r uchafbwynt oedd gweld Porth y Wawr, sef y bwthyn a adnewyddwyd gan Ferched y Wawr wrth i Nant Gwrtheyrn gael ei adnewyddu’n wreiddiol. Erbyn hyn mae hwn yn llety hyfryd i ymwelwyr. Ar ôl cael sgwrs am hanes y Nant a ffilm o’r safle, roedd digon o gyfle i gerdded i gyfeiriad y môr, yna cafwyd te braf yn y caffi i orffen y prynhawn.