Hafan > Newyddion > Teyrnged Beti Thomas Tonysguboriau a'r Cylch
Teyrnged Beti Thomas Tonysguboriau a'r Cylch
Er cof am Beti Thomas cangen Tonysguboriau a'r Cylch
Bu farw Beti Thomas ym mis Chwefror ac fe gafodd ei theulu a ffrindiau gyfle i ffarwelio â hi mewn gwasanaeth o dan ofal y Parch Rosa Hunt yn Amlosgfa Llangrallo ar y 6ed of Fawrth. Roedd Beti yn un o’r aelodau cyntaf o gangen MYW Tonysguboriau, yn drysorydd y gangen am flynyddoedd ac yn aelod ffyddlon.
Diolch i’w ffrind, Glynis Hunt am baratoi'r deyrnged ganlynol iddi ar ein rhan.
Ganwyd Beti Morris ar y 5ed o Fehefin 1935 yn Aberpennar, y trydydd blentyn a’r ifancaf yn y teulu. Cafodd ei haddysg yn yr ysgolion Aberpennar cyn mynd ymlaen i brifysgol Caerdydd a graddio mewn Hanes. Gwnaeth ei hyfforddiant dysgu yn Cheltenham ac wedyn daeth yn ôl i ardal Aberdâr i weithio yn y Coleg Addysg Bellach. Bu’n athrawes Saesneg yno trwy gydol ei gyrfa. Bu hi a’i gŵr, Colin Richards, yn byw yng Nghwmbach, Aberdâr.
Yn fuan ar ôl iddi hi ymddeol priododd Beti â Griff Thomas a buon nhw’n byw yn Nhonysguboriau. Erbyn hyn roedd David, mab Beti, wedi priodi a setlo yn ardal Chicago UDA a phlant Griff hefyd i gyd yn briod. Daeth wyrion yn fuan wedyn a chawson nhw lawer o bleser yn helpu gyda’r plant ifainc. Aeth Beti a Griff ar lawer o wyliau ar y cyfandir ac i’r Unol Daleithiau. Gan fod Griff yn Gymro Cymraeg, gwnaeth Beti’r ymdrech i ddysgu’r iaith trwy fynegi cyrsiau Basil Davies, Adrian Price a Heulwen Thomas.
Roedd Beti’n drist iawn ar ôl marwolaeth Griff yn 2001 ond gwnaeth ei gorau i fwynhau bywyd llawn. Roedd ganddi deulu a ffrindiau da. Cafodd lawer o bleser yng nghwmni’r plant a’r wyrion a mwynhaodd llawer o wyliau dramor, rhai gyda’i ffrindiau yn Malta ac ynysoedd y Canaries. Yn 2016 bu ym Mhatagonia gyda grŵp o dde Cymru a chael amser bendigedig yno.
Aeth i ymweld â’r teulu yn Chigago ddwywaith bob blwyddyn - dros y Nadolig ac yn yr haf.
Ymunodd â chapel Salem yn Nhonteg a buodd hi’n ddiacon yno am rai blynyddoedd. Roedd hi’n cadw cysylltiad gyda’i ffrindiau o’r coleg yn Aberdâr a gyda’i ffrindiau o’r dosbarth Cymraeg ac yn mwynhau cyfarfod â nhw mso-ansi-language:DA">yn aml am bryd o fwyd. Hoffai fynychu operâu yng Nghaerdydd, dramâu a sioeau cerdd yn y Parc a’r Dâr yn Nhreorci. Roedd hefyd yn cefnogi'r corau lleol.
Roedd Beti yn fenyw hapus, haelionus a chyfeillgar. Mae ei marwolaeth yn golled fawr i’w theulu a’i holl ffrindiau.