Hafan > Newyddion > Te Prynhawn Bro Dysynni Mehefin 2025


Te Prynhawn Bro Dysynni Mehefin 2025


Ar brynhawn braf o Fai daeth aelodau o Ferched y Wawr Bro Dysynni (canghennau Corris, Pennal, Aberdyfi a Bryncrug) ynghyd i fwynhau te prynhawn bendigedig yng Ngwesty Tynycornel, Talyllyn. Y wraig wadd oedd Sonia Williams o Dregarth, Bangor a thestun ei sgwrs oedd 'Hyder mewn Lliw'. Cawsom ein cynghori ar y dillad y dylem eu gwisgo o ran lliw a steil er mwyn teimlo'n hyderus. Prynhawn hwyliog a chymdeithasol.