Hafan > Newyddion > Taith Gerdded Rhanbarth Penfro


Taith Gerdded Rhanbarth Penfro


Cerdded, Cerdd a Chynefin, prosiect ein Llywydd Cenedlaethol Jill Lewis. Dyma Rhanbarth Penfro yn mynd o amgylch Castell Penfro. Hefyd Cerdd y daith, a diolch i Jill ac Eurfyl am ei chyfansoddi.

 

Mor braf cael dod i Benfro,

Ar fore Hydref sych,

I gerdded gyda'n gilydd,

Bois bach, ma hyn yn wych. 

 

Rwyf wedi crwydro tipyn,

Ers dechrau'r Prosiect hyn,

Ac wedi tuchan llawer,

Wrth droedio pant a bryn.

 

Ma llefydd mor odidog,

Ar hyd a lled ein tir,

Ond diawch mae'n anodd maeddu,

Ein hyfryd, hyfryd Shir.

 

Rhaid cofio un peth pwysig,

Wrth fyned ar ein hynt,

Plis peidwch wilibowan,

Cawn bicnic lot ynghynt!

 

Ymlaciwch yma heddi,

Sdim ishe bod yn shei,

Rhaid clatsho arni gered,

A dechre cerdded glei!

 

Mwynhewch y daith ma heddi,

Wrth ymyl Pwll y Felin,

Wrth gerdded pentigili,

Yn ardal ein cynefin.