Hafan > Newyddion > Taith Gerdded Rhanbarth Môn Medi 2025
Taith Gerdded Rhanbarth Môn Medi 2025
Taith gerdded Rhanbarth Môn yn Amlwch Nos Wener, Medi 12fed. Cafwyd amser arbennig iawn yn crwydro o amgylch Rhandiroedd Cymunedol Amlwch. Agoriad llygaid i bawb, difyr ac addysgiadol iawn. Diolch yn fawr iawn i Julie Ann Bunnies Hughes am y croeso ar ran y gwirfoddolwyr sy'n gyfrifol am y safle, ac am dywys yr aelodau o amgylch. Cafwyd paned a teisen ar y diwedd a diolchodd Siân Arwel Davies, Llywydd y Rhanbarth am y croeso dderbyniwyd.




