Hafan > Newyddion > Taith Gerdded Rhanbarth Môn


Taith Gerdded Rhanbarth Môn


Cerdded, Cerdd a Chynefin. Taith Rhanbarth Môn

Buom yn ffodus dros ben yn cael noson braf i fynd ar ein taith noddedig flynyddol ar Nos Wener, Gorffennaf 7fed. Roedd Cangen Benllech wedi trefnu i ni gael ein tywys o gwmpas pentref Moelfre. Mae yna gyfoeth o hanes morwrol yn perthyn i’r pentref. Mae hanes suddo'r Royal Charter yn 1859 a dewrder criw'r bad achub ganrif yn ddiweddarach ym mysg y rhai mwyaf cofiadwy. Wrth Ganolfan Ymwelwyr y bad achub mae cerflun arbennig o Dic Evans, llywiwr y bad pan ddrylliwyd yr Hindlea yn 1959.  Derbyniodd Dic Evans Fedal Aur am ei ddewrder, ac aelodau arall yn derbyn un fedal arian a thair efydd am eu gwroldeb yn achub criw'r llong.  Cafodd Dic Evans Fedal Aur arall yn 1966.

I gyd fynd gyda’n taith cawsom ddwy gerdd wedi eu cyfansoddi yn arbennig ar gyfer yr achlysur gan Rhian Owen, Cangen Rhosmeirch.  Mae Rhian yn enillydd Cadair a Choron Eisteddfod Môn

 

Angor yr Hindlea  (sy’n sefyll i atgoffa pawb o’r hanes trist)

 

Nid am i ti lusgo byw

Ar waelod y môr

Y cefaist dy glymu

Yn gaeth wrth gadwyn

Ynghlwm ar fachyn

A’th groen du

Y piclio’n y gwres.

 

Nid am it ymrafael

Â’r môr cynddeiriog

Y cefaist dy rwymo

Gerfydd dy arddyrnau,

A’th adael ar dy liniau

Ar goncrid

Mewn cilfach o gell

 

Ond am i ti dystio

I helynt y dryllio

Y cefaist dy ryddhau,

A’th gludo’n urddasol,

I orffwys yn oesol,

Yn ddiogel

O afael y don

 

Dic Evans

 

Fe saif

Ar lwyfan ein hanes,

Yn arwr,

A’i alwad i achub bywydau

Yn gryfach

Na rhyferthwy stormydd

Pob ‘ofnadwy nos’

Ymhlith y tonnau

 

Yn eofn

Ar fordaith gythryblus

Yn Bendigeidfran

Yn pontio

Rhwng ofn a gobaith

A’i ddyfalbarhau

Yn angor

I griw y badau

 

Yn forwr doeth

A wybu ddyfnder

Ei ddawn

Wrth hwylio

Yn llawn edmygedd

O’r eigion

Eto’n effro

I’w orffwylledd

 

Yn ddewr,

Er cryfed y corwynt

Ger y Porth

Er y rhwystrau helaeth

Anorchfygol ei ymdrech

Y llywiwr perffaith

Er eilwaith ddryllio’r llong

Ac agor canrif o graith

 

Mwy gwerthfawr nag aur

Ei wobr o arbed eneidiau

A’i anfawroli mewn cerflun

Ac yng wytnwch y metel

Mae’n bwrw’i angor

Lle daw’r niwl

A’r heli, fel gwawl

I’w lasu’n un â’r Môr