Hafan > Newyddion > Taith Gerdded Noddedig
Taith Gerdded Noddedig
Bu cyffro mawr rhwng Clwb Gwawr Llanllwni a Changen Pencader a’r Cylch wrth i ni drefnu taith gerdded noddedig ar y cyd er mwyn codi arian i gronfa ein llywydd cenedlaethol presennol, Bethan Picton-Davies sydd yn codi arian i Ymchwil Canser Cymru.
Yn ffodus iawn i ni cawsom ddefnydd o’r ystafell fawr newydd sydd yn nhafarn yr Eagle, Llanfihangel ar Arth er mwyn dod at ein gilydd i drefnu ac i ymgynnull ar y noson. Bu llawer o gloncan wrth gerdded, dod i adnabod rhai o’r newydd a dal lan gydag eraill sydd yn ffrindiau eisoes.
Cawsom fwyd hyfryd wedi eu ddarparu gan Morfudd a’r teulu ar ddiwedd y noson gyda gweddill y nos i fwynhau.
Pwrpas pennaf y noson oedd i godi arian ac mae swm anrhydeddus iawn wedi ei godi rhyngddom. Bydd hwn yn cael ei drosgwlyddo i’r gronfa ym mis Medi pan fydd bwrlwm y Sioe a’r Eisteddfod wedi dod i ben. Ochr yn ochr â hynny mae perthynas wedi ei greu rhwng y Clwb Gwawr a’r Gangen sydd yn gyffrous iawn gyda mwy o weithgareddau ar y cyd i ddilyn gobeithio.


