Hafan > Newyddion > Taith Gerdded Meirionnydd Mehefin 2023
Taith Gerdded Meirionnydd Mehefin 2023
Nos Wener, Mehefin 9fed cynhaliwyd Taith Gerdded Rhanbarth Meirionnydd. Arweiniodd Jean Roberts ni o amgylch ardal Y Parc. Dangosodd nodweddion hanesyddol yr ardal i ni. ‘Roeddem ni’n cychwyn o Neuadd Y Parc, lle sefydlwyd y Mudiad ym 1967, yna cerdded heibio i gartref y ddiweddar Mair Penri cyn teithio drwy gaeau Pant y Neuadd, cartref y ddiweddar Sylwen Lloyd Davies. Cawsom gyfle i ymweld ȃ gweithdy Iolo Puw ar y daith. Ar y ffordd i lawr yn ȏl i’r pentref gwelsom lle ‘roedd Zonia Bowen yn arfer byw. Taith ddifyr dros ben, tywydd braf a chwmni da. ‘Roedd aelodau cangen Y Parc wedi paratoi lluniaeth i ni erbyn i ni gyrraedd yn ȏl i’r neuadd