Hafan > Newyddion > Taith Gerdded Cangen Llanuwchllyn Ymchwil Canser Cymru Mehefin 2026


Taith Gerdded Cangen Llanuwchllyn Ymchwil Canser Cymru Mehefin 2026


Dydd Sadwrn, 30 o Fai, ar ddiwedd wythnos eithriadol o boeth cychwynnodd rhai o aelodau cangen Llanuwchllyn ar eu taith noddedig fel rhan o ymgyrch ein Llywydd cenedlaethol i godi arian i Cancr Cymru. 

Cerdded mewn rhan arall o Benllyn o gwmpas Llyn Caereuni, sydd i'r Gogledd Ddwyrain o bentref bach  Y Sarnau, Y Bala oedd y bwriad ac yna treulio amser gyda'n gilydd mewn te pnawn yng Ngerddi Caerau Uchaf. OND, cyn cychwyn, roedd rhaid gwisgo wig pinc drwy'r dydd!

Cymaint oedd y sgwrsio a'r camau araf gan fwynhau golygfeydd o bedwar ban bu'n roedd rhaid torri ar y daith er mwyn ymuno a'r merched oedd wedi prysuro i grwydro'r gerddi'n hamddenol tra'n disgwyl am y cerddwyr egniol! O'r gaer cawn olygfeydd hynod o Edeyrnion,  Moel Darren, Y Foel Goch a'r Orddu, crib Y Berwyn, ac inni sy'n byw ymhen deheuol Llyn Tegid, braf iawn oedd edrych arno o gyfeiriad gwahanol a rhyfeddu at hyd y llyn yn disgleirio yn yr hau.  O dan ein traed gwelwyd clychau'r gog yn  bwrw hâd  a blodau melyn lili'r dwr yn barod i agor ar wyneb y llyn. Ni ddaeth y pâr o wyddau Brent a'u cywion i'r golwg; efallai eu bod wedi dychryn o weld y llinyn o wawr binc yn symud ar ymyl y dŵr! Doedd neb yn siwr pwy oedd pwy yn y gwallt gosod pinc; a "nageodd", doedd Llio Maddocks ddim hefo ni!   

Cyrhaeddwyd y gerddi mewn un darn ar ôl 'ceisio' rhwyfo canw lle croesawyd Nicole Quirk, Swyddog Cancr Cymru'r Gogledd i ymuno atom a hefyd Freda Williams ein swyddog Sir o FyWawr.

Diolch i deulu Hickish Gerddi Caerau am y te pnawn hyfryd gyda mynediad i'r gerddi.

Cafwyd pnawn i'w gofio gan hefyd deimlo balchder o allu cefnogi'r elusen Cancr sy'n effeithio ar gymaint o ffrindiau a theuluoedd yn ein mysg.