Hafan > Newyddion > Taith diwedd tymor Dolgellau
Taith diwedd tymor Dolgellau
Castell Powys, Y Trallwng oedd dewis cangen Dolgellau am eu taith diwedd tymor. Cafwyd araeth arbennig gan Glyn, un o’r Gwirfoddolwŷr brwd Cymraeg. Hanes y castell o’r amser ei godwyd hyd y presennol cawsom.
Roedd y tywydd yn braf dros ben a’r haul yn tywynnu 🌞 - a’r gerddi yn llawn blodau o bob math a lliw. Cafwyd diwrnod i’w gofio, ac i ddilyn aethom i wledda i westy’r Cann Office ar y ffordd adra.