Hafan > Newyddion > Taith cangen Dolgellau i Lundain
Taith cangen Dolgellau i Lundain
Aeth rhai o aelodau Cangen Dolgellau a ffrindiau o ganghennau Llanuwchllyn a Llangwm ar daith i Lundain yr wythnos diwetha ac aros yn Styd Fawr Kensington. Trefnwyd y daith gan Mona Hughes o gangen Dolgellau ac maent wedi bod yn mynd dechrau Chwefror pob blwyddyn, oni bai am y clwy Covid, ers 30ain mlynedd. Tro yma daeth 2 o’r gwyr gyda ni hefyd. Cafwyd amser gwych ac roedd y tywydd yn garedig dros ben a lot o haul🌞ar yr ail ddiwrnod. Pawb yn edrych ymlaen am daith 2024 rwan!