Hafan > Newyddion > Taith Blynyddol Cangen y Groeslon, Arfon.


Taith Blynyddol Cangen y Groeslon, Arfon.


Daeth tymor cangen Y Groeslon, Arfon, i ben gyda thaith flynyddol i’w chofio. Aethom i Gae’r Gors, Rhosgadfan, i ymweld â Chanolfan Treftadaeth Kate Roberts. Cawsom gyflwyniadau difyr gan Angharad Tomos a Megan Williams, a’n tywys o gwmpas y ganolfan a’r cartref. Cawsom brynhawn penigamp - tywydd braf a chyrchfan hynod ddiddorol, a chawsom ein hysgogi i fod eisiau ail-ddarllen gwaith Brenhines ein Llên.

 

LLUN 1 – Cyflwyniad difyr yn y Ganolfan Treftadaeth

LLUN 2 – Y tu allan – yr aelodau ac Angharad Tomos a Megan Williams