Hafan > Newyddion > Swydd Swyddog Datblygu Canghennau/Clybiau Maldwyn Powys
Swydd Swyddog Datblygu Canghennau/Clybiau Maldwyn Powys
TROSOLWG
Swyddog Hyrwyddo/Datblygu
Merched y Wawr a Chlybiau Gwawr Maldwyn Powys
Oriau hyblyg
Cyflogwr: Merched y Wawr
Cyflog: Graddfa 15 -£25,874 (pro rata)
Oriau: 6.5 awr yr wythnos
Dyddiad Cychwyn Swydd: 1 Gorffennaf 2023
LLEOLIAD: Maldwyn Powys
GWYBODAETH GYSWLLT
Enw Cyswllt: Tegwen Morris, Cyfarwyddwr Merched y Wawr
Ffôn: 01970 611 661
E-bost: swyddfa@merchedywawr.cymru
Gwefan: www.merchedywawr.cymru
DISGRIFIAD
Cyflogir chi gan Ferched y Wawr, Elusen Wirfoddol Rhif 506789, fel Swyddog Datblygu/Hyrwyddo. Mae’n hanfodol eich bod yn rhugl yn y Gymraeg. Disgwylir i chi fod yn gydnabyddus ag amcanion a delfrydau’r Mudiad. Disgwylir i chi fod yn aelod llawn o Ferched y Wawr. Disgwylir i chi ymgymryd â gwaith cyffredinol y Mudiad o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol.
LLEOLIAD AC ORIAU GWAITH
Mae’r swydd yn rhan amser, a fydd yn oriau hyblyg ac yn gweithio o gartref. Disgwylir i’r person a apwyntir fod yn barod i weithio gyda’r hwyr ac yn ystod y penwythnosau yn achlysurol. Trafodir adnoddau megis ffôn a chyfrifiadur yn dilyn cyfweliad. Os gweithir oriau ychwanegol gellir cael amser yn rhydd yn ei le, yn unol â chytundeb gyda’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol.
CYFLOG: Graddfa 15 -£25,874 (pro rata)
Dyddiad cychwyn: 1 Gorffennaf 2023
PRIF DDYLETSWYDDAU
1. Cynnal aelodaeth bresennol yr ardal trwy
(i) gadw mewn cysylltiad a thrwy ymweld â changhennau a chlybiau
(ii) gynnig cymorth a chyngor i aelodau a swyddogion canghennau a chlybiau pan fo angen;
(iii) cynorthwyo canghennau a chlybiau i lunio rhaglen, trwy roi gwybodaeth iddynt am siaradwyr a.y.y.b;
(iv) fynychu Pwyllgorau Rhanbarth, a pharatoi adroddiad ar eu cyfer;
(v) fynychu’r is-bwyllgorau rhanbarthol ac unrhyw bwyllgorau perthnasol eraill a drefnir ganddynt.
(vi) hyrwyddo gweithgareddau cenedlaethol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddwr.
2. Cynyddu aelodaeth yr ardal trwy:
(i) ddenu aelodau newydd, cynnal canghennau a chlybiau ac ystyried sefydlu canghennau a chlybiau newydd yn ôl y galw;
(ii) annog a chynorthwyo swyddogion Rhanbarthol i drefnu gweithgareddau i hyrwyddo’r Mudiad yn y canghennau a’r clybiau;
(iii) ddosbarthu deunydd hysbysebu’r mudiad
(vi) godi statws drwy gynrychioli’r mudiad ar wahanol gyrff a phwyllgorau lleol.
3. Marchnata’r Mudiad drwy arddangos a gwerthu nwyddau’r Mudiad mewn gweithgareddau allanol i’r Mudiad e.e. Yr Ŵyl Cerdd Dant a.y.y.b.
4. Mynychu’r Pwyllgorau Rhyngranbarthol, Cyfarfod Blynyddol a’r Cyfarfodydd Staff.
5. Cyflawni dyletswyddau penodedig yn ymwneud â’r pwyllgorau Gŵyl a Hamdden ac Iaith a Gofal.
6. Mynychu cyrsiau hyfforddiant sydd yn berthnasol i’r swydd mewn ymgynghoriad ac ar gais y Cyfarwyddwr neu’r Llywydd Cenedlaethol.
7. Hyrwyddo gweithgareddau cenedlaethol mewn cysylltiad â’r Cyfarwyddwr sef y Penwythnos Preswyl, Cwis Hwyl, Ciniawau’r Llywydd, Cyrsiau Crefft, Eisteddfod yr Urdd, Eisteddfod Genedlaethol, Sioe Llanelwedd, y Ffair Aeaf ac unrhyw weithgaredd ychwanegol y Mudiad e.e.teithiau.
8. Codi statws trwy gynrychioli’r Mudiad ar wahanol gyrff a phwyllgorau lleol o dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol.
9. Edrych am nawdd er mwyn hybu’r Mudiad a gweithredu’r grantiau hynny.
10. Sicrhau bod gwybodaeth ranbarthol yn cael ei drosglwyddo i’r Swyddfa er mwyn diweddaru gwefan Merched y Wawr.
11. Defnyddio’r dechnoleg fodern i hyrwyddo gweithgareddau’r Canghennau, Rhanbarthau a’r Mudiad.
12. Cydweithio â’r Cyfarwyddwr, y Llywydd Cenedlaethol a’r Pwyllgor Llywio i gyflawni gwaith y Mudiad.
13. Unrhyw waith arall sy’n gydnaws â’r dyletswyddau uchod yn ôl cyfarwyddyd y Cyfarwyddwr.