Hafan > Newyddion > SWYDD GWAG - Swyddog Technoleg, Gweinyddol a Chylchgrawn - Cyfnod Mamolaeth
SWYDD GWAG - Swyddog Technoleg, Gweinyddol a Chylchgrawn - Cyfnod Mamolaeth
MERCHED Y WAWR
Swyddog Technoleg, Gweinyddol a Chylchgrawn – Cyfnod Mamolaeth
Cyflogir chi gan Ferched y Wawr, Elusen Wirfoddol Rhif 506789, fel Swyddog Technoleg, Gweinyddol a Chylchgrawn Cyfnod Mamolaeth. Mae’n hanfodol eich bod yn rhugl yn y Gymraeg. Disgwylir i chi fod yn gyfarwydd ag amcanion a delfrydau’r Mudiad. Disgwylir i chi fod yn aelod llawn o Ferched y Wawr.
Disgwylir i chi ymgymryd â gwaith cyffredinol y Mudiad dan gyfarwyddyd y Cyfarwyddwr Cenedlaethol.
LLEOLIAD AC ORIAU GWAITH
Mae’r swydd yn llawn amser yn gweithio yn y Ganolfan Genedlaethol yn Aberystwyth. Disgwylir i’r person a apwyntir fod yn barod i weithio yn achlysurol gyda’r hwyr ac yn ystod penwythnosau. Caniateir amser i ffwrdd am unrhyw waith a wneir tu allan i oriau swyddfa.
Swydd Ddisgrifiad yma
