Hafan > Newyddion > Sioe Ffasiwn Cangen Dolgellau Mai 2025


Sioe Ffasiwn Cangen Dolgellau Mai 2025


Merched y Wawr Dolgellau

Bydd rhaglen tymor Cangen Merched y Wawr, Dolgellau, ers blynyddoedd, yn cynnwys un noson i godi arian tuag at elusen arbennig. Trwy weledigaeth ein Trysorydd diwyd, Margaret Lewis, gwnaed hynny eleni mewn ‘steil’ a chafwyd noson i’w chofio.

Dillad, a’n hoffter o ddilyn y ffasiwn, mae’n debyg oedd thema’r noson. Ar ddechrau’r cyfarfod, tynnwyd ein sylw gan Llinos, y cyflwynydd, at y gwastraff dychrynllyd sydd yn sgil y diwydiant. Wyddoch chi fod y diwydiant dillad yn gyfrannwr enfawr i’r allyriadau carbon byd-eang er enghraifft? I raddau mwy, coeliwch neu beidio, nag a gynhyrchir gan awyrennau a llongau gyda’i gilydd! Ac ym Mhrydain yn unig mae 350,000 tunnell o ddillad yn mynd i safle tirlenwi yn flynyddol ac sy’n cymryd blynyddoedd lawer i bydru.

Anogir ni felly i edrych eto ar y ffordd yr ydym yn siopa am ddillad. Mae siopau elusen sy’n gwerthu dillad ail law, a newydd, yn frith yn ein trefi a phob un yn codi arian at achosion teilwng iawn. Mae llawer o’r siopau hyn wedi dioddef yn enbyd ers y cyfnod clo ac anogir ni i’w cefnogi.

Cyfrannodd pob un aelod o Ferched y Wawr Dolgellau yn ddiweddar swm rhesymol o arian i ‘gronfa elusen’. Yna cafodd wyth o aelodau dewr £20 yr un o’r gronfa i fynd i wahanol siopau elusen i brynu gwisg gyflawn ar gyfer achlysur arbennig. Ie, dim ond £20 i brynu gwisg gyflawn! Bu’r wyth, gyda help ffrindiau, mewn nifer o siopau elusen gwahanol a llwyddodd pob un i gyflawni’r dasg a gwelwyd gwisg ar gyfer mynd i weld y ceffylau yn Ascot, gwisgoedd ar gyfer priodasau, gwisg ar gyfer mynd i ŵyl gerddorol, a hyd yn oed wisg ar gyfer cyngerdd Abba! Cafwyd noson hynod o hwyliog yn y gangen ddechrau’r mis yma gyda’r wyth yn modelu’r dillad hardd o flaen eu cyd-aelodau. Ac mewn cystadleuaeth ysgafn ar y noson derbyniodd Eurwen ‘Sash Ffash Merched y Wawr Dolgellau’ am y wisg orau! Mae’r dewis gan yr aelodau i brynu’r dillad a’r arian yn mynd i’r gronfa neu eu dychwelyd i’w hail werthu.  Gwariwyd £126.45 gan yr 8 model ar eu dillad mewn gwahanol siopau elusen yn y cylch. Bydd £60.00, sef yr arian sydd ar ôl yn y gronfa yn cael ei rannu rhwng dwy siop elusen yn y dref. Syniad ardderchog i godi arian at achosion da.

Diolch yn fawr i’r wyth model ddewr sef:

Bethan, Ann, Beryl, Eurwen, Aerona, Rhiannon, Margaret a Jane.

 

Eurwen a'r Sash Ffash

Margaret ar fynd i gyngerdd Abba

Rona, Rhiannon a Jane yn mwynhau eu hunain

Yr wyth model ddewr

Tynnwyd y lluniau i gyd gan Mai Parry Roberts.

 

Nia Rowlands