Hafan > Newyddion > Sandra Morris Jones
Sandra Morris Jones
Gyda thristwch anfonwn ein cydymdeimlad at deulu y diweddar Sandra Morris Jones - Llywydd Merched y Wawr 2016 -2018. Fe wnaeth gymaint dros hyrwyddo yr Iaith gan annog dysgwyr i fwynhau y Gymraeg trwy weithgareddau Merched y Wawr. Roedd yn berson llawn bwrlwm ac yn frwdfrydig iawn, yn grefftwraig ac yn hoff o deithio. Cofiwn am y wên fawr, y dwylo medrus a'r hoffter o sgwrsio a chymdeithasu