Hafan > Newyddion > Rhocesi Bo Waldo yn dathlu degawd!
Rhocesi Bo Waldo yn dathlu degawd!
Noson Santes Dwynwen a dyma Glwb Gwawr Rhocesi Bro Waldo yn dathlu'r degawd yng nghwmni Bethan Picton-Davies Is-lywydd Cenedlaethol a Hazel Thomas Swyddog Datblygu rhanbarth Penfro, yng Ngwesty Plas Hyfryd, Arberth. Noson o fwyd bendigedig yn cynnwys cacen dathlu arbennig iawn mewn lliwiau'r mudiad gan gynnwys macarons! Noson yn llawn chwerthin a chymdeithasu wrth i'r aelodau rannu storiâu a straeon y degawd ("mae hyn sy'n mynd ar daith yn aros ar daith"). Ymlaen at y degawd nesaf a mwy!