Hafan > Newyddion > Rhanbarth Môn yn cyflwyno siec i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd
Rhanbarth Môn yn cyflwyno siec i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd
Swyddogion ac Aelodau Merched y Wawr Rhanbarth Môn yn cyflwyno siec gwerth £1,672 i Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd, Bangor ( ward sy'n trin cleifion gyda cancr).
Casglwyd yr arian y llynedd trwy gynnal Gwasanaeth Carolau ac yna Taith gerdded noddedig yn yr haf. Clwstwr Amlwch oedd yn trefnu'r gweithgareddau - sef Canghennau Amlwch, Cemaes, Llanfechell a Llannerchymedd.
Yr aelodau sydd yn y llun :
Blaen - o'r chwith i'r dde :
Cath ( Amlwch ac Ysgrifennydd Rhanbarth Môn), Luned ( Llannerchymedd), Siân Arwel (Llywydd Rhanbarth a Llandegfan), Gwyneth (Cemaes) Cynrychiolydd Ysbyty Gwynedd.
Cefn - o'r chwith i'r dde :
Carys ( Llanfechell), Cynrychiolydd Ysbyty Gwynedd, Jane, Avril a Mary ( Llannerchymedd).
Yno, ond yn absennol o'r llun oedd Margaret, ein Trysorydd Rhanbarth - diolch iddi am gasglu a chyfri'r arian.
