Hafan > Newyddion > Rhanbarth Meirionnydd yn cynnal noson i'r Dysgwyr


Rhanbarth Meirionnydd yn cynnal noson i'r Dysgwyr


Nos Iau, y 18fed o Fai cynhaliodd Pwyllgor Iaith a Gofal Rhanbarth Meirionnydd noson i’r dysgwyr yn Neuadd Llanelltyd. Croesawyd pawb gan Geunor Roberts. Bu pawb yn cyd-ganu a chafwyd cwis a datganiad ar y delyn gan Rhiain Bebb. ‘Roedd yr aelodau wedi paratoi lluniaeth.