Hafan > Newyddion > Rhanbarth Dwyfor yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol
Rhanbarth Dwyfor yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol
Rhanbarth Dwyfor yn paratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol Dydd Mawrth, y 14eg o Chwefror daeth nifer o aelodau Rhanbarth Dwyfor i Lle Art Carys Bryn yn Rhosfawr. Croesawyd pawb gan Rhian Williams, Cangen Bryncroes. Yna rhoddodd Rhian, Carol Gilbert, Cangen Llaniestyn a Linda Jones o Rhanbarth Arfon gyfarwyddiadau ac eglurhad o’r hyn a fwriedir ei gyflawni a’i arddangos ym mhabell MyW yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Yn dilyn hyn rhanwyd pecyn crefft i’r aelodau.