Hafan > Newyddion > Rhanbarth Caerfyrddin yn mynd ar daith Gerdded
Rhanbarth Caerfyrddin yn mynd ar daith Gerdded
MERCHED Y WAWR RHANBARTH CAERFYRDDIN Prynhawn dydd Sadwrn, Gorffennaf 8fed bu aelodau Canghennau a Chlybiau Merched y Wawr Rhanbarth Caerfyrddin ar daith gerdded o gwmpas Llyn Llech Owain. Cafwyd taith hyfryd a bu llawer o sgwrsio. Diolch i Rhian Perks am ein tywys ac am adrodd chwedl Llyn Llech Owain i’r aelodau. Wedi cyrraedd nôl cafwyd paned, cacen a chyfle i gymdeithasu.